BBC: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: kk:Би-би-си
Hanes y BBC, Gwybodlen, llun Broadcasting House.
Llinell 1:
{{gwybodlen
[[File:BBC.svg|right|220px|thumb|Logo BBC]]
|enw=Britsh Broadcasting Corporation
|delwedd=BBC.svg
|maintdelwedd=150px
|lled=50
|testun1=Diwydiant
|eitem1=Darlledu
|testun2=Sylfaenwyd
|eitem2=1 Ionawr 1927
|testun3=Sylfaenydd
|eitem3=John Reith
|testun4=Gwlad
|eitem4=[[Deyrnas Unedig]]
|testun5=Pencadlys
|eitem5=[[Llundain]], [[Deyrnas Unedig]]
|testun8=Gwefan
|eitem8=http://www.bbc.co.uk
}}
 
Corfforaeth [[darlledu|ddarlledu]] gyhoeddus y [[Deyrnas Unedig]] yw'r '''British Broadcasting Corporation''' neu'r '''BBC''' (dyweder "''bi bi ec''", neu "''bi bi si''"). Mae'n darparu gwasanaethau [[teledu]], [[radio]] ac [[arlein]] trwy'r D.U., ac yn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang trwy gyfrwng ei gwefannau, y gwasanaeth radio ''[[BBC World Service]]'', ynghyd a nifer o fentrau masnachol yn y maes teledu, fel [[BBC America]].
 
==Hanes y BBC==
===1920-1950===
[[delwedd:Bbc_broadcasting_house_front.jpg|dde|bawd|200px|BBC Broadcasting House, [[Llundain]].]]
Mae’r 1920’ai yn gweld creadigaeth y BBC fel sefydliad a darlledydd. Gwnaeth [[John Reith]] creu’r ethos sef i hysbysu, addysgu ac i adlonni- model sy’n addas ar gyfer unrhyw [[darlledwr cyhoeddus|ddarlledwr cyhoeddus]]. Profwyd radio i fod yn boblogaidd iawn trwy’r wlad efo cynnydd mawr yn werthiant y [[radio]]. Yn ystod y [[Streic Gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926|Streic gyffredinol]] yn 1926 wynebodd y BBC gwrthdaro mawr efo’r llywodraeth ynglŷn ag annibyniaeth olygyddol y darlledwr. Erbyn y 1930’ai ehangodd y sefydliad efo hyder, ac roedd yr [[Broadcasting House]] sef y canolfan darlledu cyntaf o’r fath ym Mhrydain yn symbolaidd o hyn. Yn ogystal roedd y gwasanaeth yn arloesi efo’r dewis cynyddol o raglenni radio ac mae yna hefyd arbrofion darlledu [[teledu]] dan arweiniad John Logie Baird sef dyfeisiwr y [[teledu]]. Chwaraeodd y BBC rhan allweddol bwysig trwy ddarlledu yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]] er bod darllediadau teledu wedi darfod dros y cyfnod. Gwnaeth [[Winston Churchill]] nifer o areithiau ysbrydol dros y tonnau awyr ac roedd y gwasanaeth newyddion yn fudd i nifer o bobl yn rhyngwladol. Tua diwedd y 1940’ai mae radio yn darlledu ychydig o adloniant ysgafnach hefyd efo rhaglenni hir dymor megis ‘’Womans Hour’’ a ‘’Book at Bedtime’’.
 
===1950-1970===
Y 1950’ai oedd degawd y teledu, efo cynnydd mawr mewn gwylwyr oherwydd coroniad [[Elizabeth II]] yn 1953. Yn dilyn hyn, dechreuodd rhaglenni fel Blue Peter, Panorama, y sebon cyntaf erioed ac ar y radio dechreuodd Under Milk Wood a hefyd [[The Archers]]. Mae’r 1960’ai yn gweld ehangiad mawr i'r sefydliad wrth iddynt symud mewn i’w cartref newydd sef [[Televison Centre]] yn Llundain. Tyfodd y sin pop ym Mhrydain efo lansiad Radio 1yn 1967. Roedd 1969 yn flwyddyn a thrawsnewidiodd y diwydiant efo darllediad [[Apollo 11]] yn glanio ar [[y Lleuad]] mewn lliw.
 
===1970-1990===
Yn ystod y 1970’ai gwelodd y BBC mwy o esblygiad efo cyflwyniad rhaglenni comedi megis Morecambe and Wise, rhaglenni dogfennol David Attenborough ac efo dramâu fel y BBC Shakespeare Project. Roedd partneriaethau efo’r Brifysgol Agored wedi troi tir newydd yn y ffordd a darlledwyd addysg.
Roedd yna ffocws pwysig ar y BBC yn ystod yr 1980’ai wrth adrodd ar [[Ryfel y Falklands]], a hefyd arddangos cyngerdd Live Aid. Gwyliodd dros 750 miliwn priodas Charles a Diana- y nifer fwyaf o wylwyr erioed ym Mhrydain a lansiwyd y sebon [[Eastenders]] yn 1985. Roedd yna wrthdaro eto am annibyniaeth olygol y sefydliad o gwmpas yr amser roedd yna gyffro yng Ngogledd Iwerddon, am y tro cyntaf ers i streic gyffredinol.
 
===1990- presennol===
Daeth y BBC mewn i’r oes ddigidol yn y 90’ai, trwy ddatblygu nifer o ddulliau darlledu [[digidol]], boed yn darlledu daearol neu dros [[y rhyngrwyd]]. Lansiwyd sianel newyddion pedair awr ar hugain, ac roedd y teletubies wedi trawsnewid rhaglenni plant ar raddfa fydol. Galwyd y 2000’ai yn ddegawd digidol efo cynulleidfaoedd eisiau mwy o gynnwys unrhyw bryd ac unrhyw le, felly lansiwyd [[BBC iplayer]] yn Nadolig 2007. Mae’r wefan yn cael dros 3.6 biliwn edrychiad pob mis.
 
== Lleoliadau ==