Din Lligwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Saif Din Lligwy ar fryn isel heb fod ymhell o'r môr. Tu mewn i fur amgylchynol mae sylfeini nifer o adeiladau, rhai ohonynt yn grwn a rhai yn hirsgwar. Mae olion gweithio [[haearn]] yn rhai ohonynt. Credir fod yr adeiladau crwn yn dai a'r rhai hirsgwar yn weithdai. Er ei fod yn is nag yr oedd yn wreiddiol, mae'r mur allanol mewn cyflwr da.
 
Bu cloddio [[Archaeoleg|archaeolegol]] yma, a gwnaed nifer o ddarganfyddiadau. Roedd rhai o'r rhain yn awgrymu fod y lle yn cael ei ddefnyddio yn y bedwaredd ganrif O.C., ond roedd hefyd dystiolaeth o adeiladau ar y safle cyn y rhai a welir, efallai yn dyddio i [[Oes yr Haearn]]. Cafwyd hynhyd i far o arian, crochenwaith wedi ei fewnforio ac eitemau gwydr.
 
Y farn gyffredinol o ystyried y darganfyddiadau hyn a'r tai crwn oedd fod Din Llugwy yn perthyn i uchelwr neu bennaeth brodorol oedd wedi ei ddylanwadu i ryw raddau gan ddiwylliant Rhufain ond yn parhau i gadw at bensaerniaeth draddodiadol yn bennaf. Mae'r safle yng ngofal [[Cadw]].