Ahinoam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

enw personol benywaidd (אחינועם)
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Enw Hebraeg yw '''Ahinoam''' (Hebraeg: '''אֲחִינֹעַם''') sy'n golygu brawd pleserau <ref>iarchive:encyclopaediabib01cheyuoft/page/n81/mode...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:40, 2 Awst 2020

Enw Hebraeg yw Ahinoam (Hebraeg: אֲחִינֹעַם) sy'n golygu brawd pleserau [1]

Mae dau gyfeiriad yn y Beibl at bobl sy'n dwyn yr enw:

  • Ahinoam #1 a ddaeth yn wraig i Saul
  • Ahinoam #2, a ddaeth yn ail wraig Dafydd

Ahinoam #1

Roedd yr Ahinoam gyntaf yn ferch i Ahimaas.[2] Hi oedd gwraig Saul, brenin cyntaf Israel. Roedd hi'n fam i dri o fechgyn sy'n cael eu henwi Jonathan, Issui, a Malci-sua a dwy ferch; Merab a Michal. Cynigiodd Saul law Merab mewn priodas i Dafydd, ond fe wrthododd hi gan briodi Michal y ferch iau.

Ahinoam #2

Dynes o Jesreel oedd yr ail Ahinoam. [3] Wedi anghydfod gyda Saul fe ffodd Dafydd i aros gyda Achis mab Maoch, brenin Gath, gadawodd Michal, ei wraig gyntaf gyda Saul ei thad ond aeth ag Ahinoam ac Abigail gydag ef. [4] Tra bod Dafydd a'i ddynion yn gwersylla ger Jesreel, cânt eu cipio gan Amaleciaid a oedd wedi ysbeilio tref Siclag a dygwyd ei ddwy wraig yn wystlon. [5]Arweiniodd Dafydd gyrch yn erbyn yr ymlidwyr gan achub ei wragedd. Esgorodd Ahinoam ar fab cyntaf Dafydd, Amnon. [6]

Cyfeiriadau

Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net