Lorenzo Valla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732 Tagiau: Golygiad cod 2017 |
B →Bywgraffiad: s |
||
Llinell 7:
Ym 1431 fe'i penodwyd yn athro rhethreg ym Mhrifysgol [[Pavia]]. Yno, ymosododd ar draddodiadau canoloesol y gyfadran gyfreitheg, a daeth i'r amlwg fel lladmerydd o ramadeg ac ieitheg yn y clasuron. O ganlyniad i'r ddadl, gorfodwyd iddo adael Pavia ym 1433. Er gwaethaf, enillodd enw am ei lenydda a'i rethreg [[polemig|bolemig]] a chafodd ei groesawu i lysoedd gan frenhinoedd, dugiaid a changellorion ar draws yr Eidal, a threuliodd y cyfnod 1435–48 yn [[Napoli]] yn bennaf.<ref>{{eicon en}} "[https://www.encyclopedia.com/people/literature-and-arts/scholars-antiquarians-and-orientalists-biographies/lorenzo-valla Lorenzo Valla]" yn ''Encyclopedia of World Biography''. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 2 Awst 2020.</ref>
Ym 1440 cyhoeddwyd y traethodyn ''De falso credita et ementita Constantini donatione declamatio'' ganddo, gwaith sydd yn profi natur ffug [[Donawd Cystennin]], y ddogfen a hawliwyd gan y Babaeth i gyfiawnhau ei hawdurdod gwleidyddol ac eglwysig yn y byd hwn. Defnyddiodd Valla ddadansoddiadau ieithegol i ddatguddio croesddywediadau mewnol a chamamseriadau'r ddogfen. Ysgrifennodd Valla ''De falso'' i
O ganlyniad i ''De falso'', a'i ysgrifeniadau damcaniaethol ar bwnc crefydd, cyhuddwyd Valla o baganiaeth neu [[heresi]] gan [[y Chwilys Rhufeinig]], a bu'n rhaid iddo ddibynnu ar gymorth y Brenin Alfonso nes iddo ailgymodi â'r Eglwys ym 1448. Dychwelodd i'w ddinas enedigol a fe'i penodwyd yn ysgrifennydd i'r [[Pab Niclas V]]. Yn Rhufain, bu Valla yn addysgu, yn cyfieithu awduron Groeg i Ladin, ac yn lladmerydd dros ddyneiddiaeth y Dadeni o fewn yr Eglwys. Defnyddiodd ei ddulliau ieithegol i astudio ac anodi [[y Fwlgat]], a chafodd ddylanwad mawr ar [[dyneiddiaeth Gristnogol|ddyneiddiaeth Gristnogol]] wedi i [[Desiderius Erasmus]], ym 1505, ganfod llawysgrif o'r ''Annotationes'' a'i ddefnyddio i gynhyrchu cyfieithiad Lladin o'r [[Testament Newydd]].
|