Anna broffwydes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 24:
Mae Luc yn disgrifio Anna fel un "hen iawn". Mae llawer o Feiblau a sylwebyddion yn nodi ei bod yn 84 mlwydd oed. Mae'r testun Groeg yn nodi καὶ αὐτὴ χήρα ὡς ἐτῶν ὀγδοηκοντατεσσάρων, a gyfieithir yn gyffredinol fel "roedd hi'n weddw wyth deg pedair blwydd oed". Mae'r darn yn amwys: gallai olygu ei bod yn 84 oed, neu ei bod wedi bod yn wraig weddw am 84 mlynedd. <ref>{{Cite book|edition=|title=The Gospel of Luke : a commentary on the Greek text|url=https://www.worldcat.org/oclc/4037038|publisher=Eerdmans|date=1978|location=Grand Rapids|isbn=0-8028-3512-0|oclc=4037038|last=Marshall|first=I. Howard.|year=|pages=}}</ref> Mae rhai ysgolheigion o'r farn mai'r olaf yw'r opsiwn mwyaf tebygol. O dderbyn yr opsiwn hwn, ni allai fod wedi priodi yn iau na thua 14 oed, ac felly byddai wedi bod yn o leiaf 14 + 7 + 84 = 105 mlwydd oed. <ref>{{Cite book|title=The Gospel of Luke|url=https://www.worldcat.org/oclc/36915764|publisher=W.B. Eerdmans Pub. Co|date=1997|location=Grand Rapids, Mich.|isbn=0-8028-2315-7|oclc=36915764|last=Green|first=Joel B.|year=|pages=}}</ref>
 
Mae Anna yn un o ddau broffwyd a rhoddodd croeso i'r Iesu yn y Deml. Y llall oedd Simeon, oedd hefyd yn ŵr hen iawn, oedd wedi cael addewid na fyddai'n marw cyn gweld y Crist. <ref>[https://www.biblegateway.com/passage/?search=Luke+2%3A25&version=BWM Luc 2:25]</ref> Un o negeseuon canolog [[y Testament Newydd]] yw bod yr Iesu yn cyflawni addewid parhaus [[Duw]] trwy ei broffwydi ers i [[Adda]] ac [[Efa]] cael eu troi allan o [[Gardd Eden|Ardd Eden]]. Mae cael dau broffwyd hynod oedrannus, sydd wedi bod yn cyhoeddi addewid Duw am waredwr ers eu hieuenctid yn cyhoeddi mae'r baban Iesu yw ymgnawdoliad yr addewid yn bwysig. Mae oedran y ddau broffwyd yn tanlinellu bod y baban Iesu yn cyflawni proffwydoliaeth hynafol ddi-dor. <ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2192687/2227532/7#?xywh=-291%2C191%2C2958%2C1922 Henaint Anrhydeddus; Y Diwygiwr Tachwedd – 1909] adalwyd 3 Awst 2020</ref>
 
== Traddodiadau eglwysig ==