Lorenzo Valla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 9:
Ym 1440 cyhoeddwyd y traethodyn ''De falso credita et ementita Constantini donatione declamatio'' ganddo, gwaith sydd yn profi natur ffug [[Donawd Cystennin]], y ddogfen a hawliwyd gan y Babaeth i gyfiawnhau ei hawdurdod gwleidyddol ac eglwysig yn y byd hwn. Defnyddiodd Valla ddadansoddiadau ieithegol i ddatguddio croesddywediadau mewnol a chamamseriadau'r ddogfen. Ysgrifennodd Valla ''De falso'' i gefnogi achos ei noddwr, [[Alfonso V, brenin Aragón]], yn ei ymgyrch yn erbyn y Babaeth yn ne'r Eidal.
 
O ganlyniad i ''De falso'', a'i ysgrifeniadau damcaniaethol ar bwnc crefydd, cyhuddwyd Valla o baganiaeth neu [[heresi]] gan [[ychwilyswyr Chwilysy Rhufeinig]]pab, a bu'n rhaid iddo ddibynnu ar gymorth y Brenin Alfonso nes iddo ailgymodi â'r Eglwys ym 1448. Dychwelodd i'w ddinas enedigol a fe'i penodwyd yn ysgrifennydd i'r [[Pab Niclas V]]. Yn Rhufain, bu Valla yn addysgu, yn cyfieithu awduron Groeg i Ladin, ac yn lladmerydd dros ddyneiddiaeth y Dadeni o fewn yr Eglwys. Defnyddiodd ei ddulliau ieithegol i astudio ac anodi [[y Fwlgat]], a chafodd ddylanwad mawr ar [[dyneiddiaeth Gristnogol|ddyneiddiaeth Gristnogol]] wedi i [[Desiderius Erasmus]], ym 1505, ganfod llawysgrif o'r ''Annotationes'' a'i ddefnyddio i gynhyrchu cyfieithiad Lladin o'r [[Testament Newydd]].
 
Bu farw Lorenzo Valla yn Rhufain ym 1457, tua 50 oed.<ref>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Lorenzo-Valla |teitl=Lorenzo Valla |dyddiadcyrchiad=2 Awst 2020 }}</ref>