Cyhoeddfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
B manion
 
Llinell 1:
Cysyniad [[cymdeithaseg]]ol yw '''cyhoeddfa''', neu '''y gyhoeddfa''', sydd yn cyfeirio at y cylch mewn [[cymdeithas]] fodern a saif rhwng [[y wladwriaeth]] a [[cymdeithas sifil|chymdeithas sifil]], ac sydd yn crybwyll [[y cyhoedd]] cyfan. Cyflwynwyd y syniad gan yr athronydd [[Jürgen Habermas]], a fathai'r enw Almaeneg ''Öffentlichkeit''. Bathwyd y term Cymraeg gan Huw Rees.<ref>Huw Williams, ''[[Credoau'r Cymry|Credoau'r Cymry: Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol]]'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2016), t. .</ref>
 
Yn ôl Habermas, ymddangosodd y gyhoeddfa yn y cyfnod Ewropeaidd o'r 17g i'r 19g, fel gofod cymdeithasol a oedd yn wahanol i gymdeithas y [[llys brenhinol]] a'r wladwriaeth absoliwt. Datblygodd y gofod hwn o ganlyniad i'r ddadl gyhoeddus a hwyluswyd gan [[rhyddid y wasg|y wasg rydd]], [[tŷ coffi|tai coffi]], [[llyfrgell]]oedd cyhoeddus, a sefydliadau eraill. Ar y cyd â phoblogaeth [[llythrennedd|lythrennog]] a oedd yn ymwybodol o newyddion y dydd, tyfodd hefyd y syniad o farn y cyhoedd, a'r effaith a gafwydgafodd hynny ar [[democratiaeth|ddemocratiaeth]].<ref>Gerard Delanty, "Public sphere" yn ''The Concise Encyclopedia of Sociology'', golygwyd gan George Ritzer a J. Michael Ryan (Caerfuddai: Wiley-Blackwell, 2011), t. 482.</ref> Yn y byd modern mae'r gyhoeddfa yn cynnwys [[y cyfryngau torfol]], [[y cyfryngau cymdeithasol]], dadleuon o fewn a rhwng cyrff cymdeithas ddinesig a [[plaid wleidyddol|phleidiau gwleidyddol]], â thrafodaethau anffurfiol rhwng dinasyddion.<ref>Dafydd Huw Rees, "[https://pedwargwynt.cymru/dadansoddi/gol/croeso-ir-byd-ol-seciwlar Croeso i’r byd ôl-seciwlar]", ''[[O'r Pedwar Gwynt]]'' (30 Tachwedd 2018). Adalwyd ar 21 Medi 2019.</ref>
 
== Cyfeiriadau ==