Cyfradd adwaith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau) |
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 17:
== Damcaniaeth gwrthdrawiadau gronynnau ==
Mae'r ddamcaniaeth gwrthdrawiadau gronynnau yn esbonio sut mae cyfradd yn amrywio gyda chrynodiad, gwasgedd a thymheredd. Mae adweithiau yn digwydd pan fo gan wrthdrawiadau rhwng y gronynnau sy'n adweithio yr [[egni actifadu]] angenrheidiol. Er mwyn dechrau adwaith cemegol rhwng [[moleciwl]]au, mae'n rhaid torri'r bondiau yn yr adweithyddion, ac mae angen [[egni]] i wneud hyn; yr egni actifadu. [[Tymheredd]] yw mesuriad o gyfartaledd [[egni cinetig]] y molecilwau ac felly po fywaf yw'r tymheredd, y cyflymach y mae'r moleciwlau yn symud. Mae'n rhaid i foleciwlau wrthdaro gyda digon o egni cinetig i'r bondio dorri, hynny yw mae'n rhaid iddynt wrthdaro gyda'r egni actifadu. Ar ôl torri'r bondiau mae'r atomau yn creu moleciwlau newydd
Wrth gynyddu'r tymheredd, mae nifer y gwrthdrawiadau uwchben yr egni actifadu yn cynyddu. O ganlyniad, mae amledd y gwrthdrawiadau llwyddiannus yn cynyddu ac felly mae'r gyfradd yn cynyddu. Dengys hafaliad Arrhenius y berthynas rhwn cysonyn y gyfradd a'r egni actifadu:
:<math>k = A e^{{-E_a}/{RT}}</math>
==Hafaliadau cyfradd==
|