Cyfradd adwaith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 14:
*[[Golau]] (mewn [[ffotosynthesis]] a chlorineiddiad [[methan]], er enghraifft)
 
Er mwyn astudio'r effeithiau uchod, mae'n rhaid mesur cyfradd yr adwaith. Er mwyn gwneud hyn, mesurir priodwedd sy'n newid dros [[amser]]. Er enghraifft gellir mesur newid cyfaint nwy, newid gwasgedd, newiddnewid lliw hyddoddiant, newid dargludedd, ayyb.
 
Mae'r ddamcaniaeth gwrthdrawiadau gronynnau yn esbonio sut mae cyfradd yn amrywio gyda chrynodiad, gwasgedd a thymheredd. Mae adweithiau yn digwydd pan fo gan wrthdrawiadau rhwng y gronynnau yr [[egni actifadu]] angenrheidiol. Er mwyn dechrau adwaith cemegol rhwng [[moleciwl]]au, mae'n rhaid torri'r bondiau yn yr adweithyddion, ac mae angen [[egni]] i wneud hyn; yr egni actifadu. [[Tymheredd]] yw mesuriad o gyfartaledd [[egni cinetig]] y molecilwau ac felly po fywaf yw'r tymheredd, y cyflymach y mae'r moleciwlau yn symud. Mae'n rhaid i foleciwlau wrthdaro gyda digon o egni cinetig i'r bondiau dorri, hynny yw mae'n rhaid iddynt wrthdaro gyda'r egni actifadu. Ar ôl torri'r bondiau mae'r atomau yn creu moleciwlau newydd ac mae egni yn cael ei ryddhau.