Tegeingl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

cantref
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Cantref yng ngogledd-ddwyrain Cymru oedd '''Tegeingl'''. Fe'i enwir ar ôl y Deceangli, un o lwythau Celtaidd Cymru yn Oes yr Haearn a'r [...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 23:15, 5 Chwefror 2007

Cantref yng ngogledd-ddwyrain Cymru oedd Tegeingl. Fe'i enwir ar ôl y Deceangli, un o lwythau Celtaidd Cymru yn Oes yr Haearn a'r cyfnod Rhufeinig.

Mae'r cantref yn gorwedd yn nwyrain y Berfeddwlad ar arfordir y Gogledd rhwng Afon Clwyd yn y gorllewin a Glannau Dyfrdwy yn y dwyrain. I'r gorllewin mae'n ffinio â chantrefi Rhos a Rhufoniog, yn y de-orllewin â chwmwd Dogfeiling yng nghantref Dyffryn Clwyd, ac yn y de-ddwyrain ag Ystrad Alun a Phennarlâg. Roedd y diriogaeth yn cyfateb yn fras i Sir y Fflint heddiw.

Yn Oes y Tywysogion roedd Tegeingl yn cynnwys tri chwmwd Rhuddlan, Prestatyn a Coleshill. Perthynai'r cantref i dywysogion cynnar teyrnas Gwynedd, ond a ddiwedd yr 8fed ganrif fe'i goresgynwyd gan y Mersiaid, gelynion mawr Gwynedd a Phowys. Arosodd yn nwylo'r [[Saeson] a'r Normaniaid nes i Owain Gwynedd ei adfer i Wynedd yn y 12fed ganrif. Newidiai ddwylo sawl gwaith yn yr ymgiprys rhwng tywysogion Gwynedd a Choron Lloegr yn y ganrif olynol.

Rhuddlan oedd ei ganolfan, ond roedd Diserth yn bwysig hefyd. Yn ddiweddarach sefydlwyd mynachlog yn Ninas Basing.