System wladwriaethau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:56, 4 Awst 2020

Enw ar y cydberthynasau a ddatblygwyd yn ystod y cyfnod modern cynnar yn Ewrop wrth i'r wladwriaeth ennill ei statws yn brif weithredydd y lefel facro-wleidyddol yw'r system wladwriaethau. Ymgodai grym y wladwriaeth nes ei bod yn tra-arglwyddiaethu megis lefiathan, chwedl Hobbes, yn sgil cwymp y drefn ffiwdal, a oedd yn dosrannu grymoedd gwleidyddol, milwrol, ac economaidd i sawl haen o gymdeithas. Ymddangosodd y frenhiniaeth ddiamod mewn sawl gwlad, gan gynnwys y Tuduriaid yn Lloegr, y Vasa yn Sweden, y Hapsbwrgiaid yn Sbaen, a'r Bourboniaid yn Ffrainc. Erbyn dechrau'r 16g, dyma oedd y brif ffurf ar lywodraeth yn Ewrop, a chanddi gefnogaeth y fwrdais newydd a oedd yn ffafrio gallu'r frenhiniaeth ganoledig, gryf i herio cyfundrefnau trawswladol megis yr Eglwys Gatholig a'r Ymerodraeth Lân Rufeinig yn ogystal â thanseilio dylanwad yr hen bendefigaeth ffiwdal. Atgyfnerthwyd y datblygiadau llywodraethol hyn gan Heddwch Westffalia ym 1648, a ddiffiniodd awdurdod a sofraniaeth y genedl-wladwriaeth fodern.

Bu materion tramor a diplomyddiaeth felly yn faes arbennig i'r teyrn a'i cynghorwyr a llysgenhadon. Rhyfel a heddwch oedd yn tynnu sylw y rhan fwyaf o'r amser: ffurfio cynghreiriau milwrol, brwydro ac ymgyrchu, a chyflafareddu cadoediadau a chytundebau heddwch. Sefydlwyd cynghreiriau yn gudd, yn aml gydag amcanion ymosodol i ryfela yn erbyn pwerau eraill, yn wahanol i gynghreiriau amddiffynnol yr oes fodern. Bu teyrnoedd Ewrop hefyd yn trefnu priodasau brenhinol i gryfhau eu cysylltiadau, ac yn diogelu diddordebau economaidd y deyrnas drwy bolisïau masnach mercantilaidd.

Yn sgil chwyldroadau gweriniaethol yn America (1776) a Ffrainc (1789), rhyfeloedd annibyniaeth America Ladin, a thwf cenedlaetholdeb ar draws Ewrop yn y 19g, disodlwyd y frenhiniaeth gan y genedl-wladwriaeth yn weithredydd canolog y system wladwriaethau. Dan yr hen drefn, nid oedd y teyrnoedd absoliwt yn cydnabod yr un arall yn uwch ei statws, a buont felly yn trin ei gilydd yn gydradd mewn cysylltiadau rhyngwladol. Bellach, y llywodraeth ac nid person y teyrn oedd locws sofraniaeth. Mewn rhai gwladwriaethau, parhaodd llywodraeth dan reolaeth y teyrn, ond mewn gweriniaethau cydnabuwyd cynulliadau cynrychioladol megis seneddau yn meddu ar sofraniaeth.

Trwy gydol ei hanes, nodweddir cysylltiadau rhyngwladol gan ddiffyg awdurdod canoledig, a bu'r drefn ryngwladol yn dibynnu ar ryw fath o reolau er mwyn atal anllywodraeth rhag troi yn anhrefn. Y brif ddull o gadw trefn yn hanesyddol ydy'r cydbwysedd grym, ac yn y 19g ceisiwyd sefydlogi'r cydbwysedd dan Gytgord Ewrop. Cychwynnwyd y drefn hon ar ffurf trefn diogelwch yn sgil Cynhadledd Fienna (1815), ac er iddi wanhau ymhen dro yn wyneb deffroadau cenedlaetholgar a rhyddfrydiaeth, llwyddodd y Cytgord i atal rhyfel mawr rhwng pwerau Ewrop – ac eithrio Rhyfel y Crimea – hyd at ddechrau'r 20g.

Cynyddodd y nifer o wladwriaethau yn sylweddol yn ystod yr 20g, yn enwedig yn sgil datrefedigaethu'r ymerodraethau Ewropeaidd, ac ymgorfforwyd yr egwyddor anaralladwy o gydraddoldeb sofran yn Erthygl 2:1 Siarter y Cenhedloedd Unedig. Yn ôl y gyfraith ryngwladol, cydnabyddir pob un wladwriaeth yn ffurfiol gydraddol, ac yng Nghynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig mae gan bob aelod-wladwriaeth un bleidlais. Mewn sawl sefydliad rhyngwladol defnyddir rheol unfrydedd, a chaiff gwladwriaethau eu trin yn debyg ym myd diplomyddiaeth er gwaethaf y gwirioneddau yn nhermau grym.[1]

Cyfeiriadau

  1. Graham Evans a Jeffrey Newnham, The Penguin Dictionary of International Relations (Llundain: Penguin, 1998), tt. 515–7.