Francesco Filelfo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:25, 4 Awst 2020

Ysgolhaig a bardd Eidalaidd a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Francesco Filelfo (13981481) sydd yn nodedig am gasglu llawysgrifau Groeg clasurol.

Francesco Filelfo
Ganwyd25 Gorffennaf 1398 Edit this on Wikidata
Tolentino Edit this on Wikidata
Bu farw31 Gorffennaf 1481 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMarch of Ancona Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfieithydd, academydd, diplomydd, bardd, areithydd, athronydd, ieithegydd clasurol, dyneiddiwr, ysgrifennwr, copïwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PlantGianmario Filelfo Edit this on Wikidata

Ganed yn Tolentino yng nghanolbarth yr Eidal. Astudiodd y gyfraith a rhethreg ym Mhrifysgol Padova, a bu'n athro yno am gyfnod. Teithiodd i Gaergystennin ym 1420 i berffeithio'i grap ar yr iaith Roeg. Treuliodd saith mlynedd yng Nghaergystennin yn astudio Groeg dan yr ysgolhaig Manuel Chrysoloras, a phriododd â Theodora, merch Chrysoloras. Dychwelodd Filelfo i Fenis ym 1427 gyda'i theulu a helfa fawr o destunau Groeg.[1]

Penodwyd Filelfo yn athro rhethreg ac athroniaeth foesol ym Mhrifysgol Bologna ym 1428. Symudodd i Brifysgol Fflorens ym 1429, a denodd nifer fawr o wrandawyr i'r ddarlithoedd ar awduron Groeg, gan gynnwys dinasyddion amlwg megis Cosimo de’ Medici, Palla Strozzi, a Leonardo Bruni. Collodd ffafr Cosimo ym 1431, ac ym 1433 bu ymdrech i'w ladd. Pan ddychwelodd y Medici i rym ym 1434, ffoes Filelfo o Fflorens. Addysgodd yn Siena o 1435 i 1438 ac yno goroesodd Filelfo gais arall i'w lofruddio.[1]

Ym 1439 cafodd Filelfo ei benodi yn bardd llys i Ddug Milan ac yn athro rhethreg ym Mhrifysgol Padova. Am weddill ei oes, bu dan nawddogaeth y Visconti a'r Sforza, dugiaid Milan. Cyfieithodd sawl testun Groeg i Ladin, ac ysgrifennodd y dychangerddi Horasaidd Satyrae, ymgomion, arwrgerdd yn arddull Fyrsil o'r enw Sforziad, sawl casgliad o lythyron a cherddi, a thraethawd ar bwnc athroniaeth foesol.[1]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), t. 141–2.