Medal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu fymryn, hanes
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Llinell 4:
 
== Hanes ==
[[Delwedd:Pisanello, Niccolò Piccinino, 1386-1444, Condottiere (obverse), c. 1441, NGA 44320.jpg|bawd|Medal [[efydd]] gan Pisanello sydd yn dangos pen y ''[[condottiere]]'' Niccolò Piccinino ar ei hochr flaen (tua 1441).]]
Creasid medalau celfydd ers cyfnod [[Groeg yr Henfyd]]. Nodir medalau'r [[Rhufain hynafol|Rhufeiniaid]] am bortreadau realistig. Daeth medalau yn ffasiynol yn ystod [[y Dadeni Dysg]], yn enwedig drwy waith cywrain yr arlunydd Eidalaidd [[Pisanello]]. Roedd nifer o gerflunwyr a phaentwyr y Dadeni hefyd yn wneuthurwyr medalau, gan gynnwys [[Filippo Lippi]], [[Benvenuto Cellini]], ac [[Albrecht Dürer]]. [[Deigastio]] oedd y ffordd fwyaf cyffredin o wneud medalau yn y 15g, ond erbyn yr 16g cafodd y mwyafrif ohonynt eu bwrw mewn mowld. Yn y 19g, [[Ffrainc]] oedd y brif wlad am gynhyrchu medalau o werth celfyddydol.