Llanfarchell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Ynganiad ar wybodlen lle wd using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 21:
Gerllaw i gofeb Lhuyd mae cofeb bres (sy'n brin yng Nghymru) yn portreadu Richard Myddelton (bu farw ym 1565) gyda'i wraig a'i 16 o blant, saith ohonynt yn ferched sydd wedi'u gwisgo'n ffasiynol a naw mab. Daeth un o'r rhain, Syr [[Thomas Myddelton]], yn Arglwydd Faer Llundain yn ddiweddarach a sefydlodd linach [[Castell Y Waun]]; bu mab arall, gof aur ac ''entrepreneur'', Syr Hugh, yn gyfrifol am drawsnewid cyflenwad dŵr Llundain, gyda'i brosiect 'Afon Newydd'.
 
Bu'r allor ddeheuol, ar un adeg, yn gapel preifat i deulu grymus Salesbury – dyma sy'n cyfrif am geinder ei bwrdd cymun cerfiedig a'i rheiliau allor. Yma y saif y gofeb alabastr beintiedig ysblennydd o Syr [[John Salusbury]] (bu farw ym 1578) a'i wraig, y Fonesig Jane (Myddelton arall). Mae'n gorwedd mewn arfwisg, gyda'i gleddyf a'i gyllell hela – ac yn ei gwain ceir cyllell a fforc bychan: mae ei draed yn gorffwys ar anifail rhyfedd – nid ei filgi na'r ‘Bwystfil Caledfryn' mytholegol, ond, yn syml, llew sydd wedi ei gerfio'n wael. Mae'r Fonesig Jane yn gwisgo'i ffrog weddw gyda'i rwff uchel, a'i thraed yn ymddangos o dan ei pheisiau stiff. O'u cwmpas saif eu naw mab (pob yn yn gwisgo arfwisg ac eithrio offeiriad mewn gwn du) a phedair merch; dangosir dwy a fu farw'n fabanod wedi eu rhwymo mewn cadachau.
 
<gallery mode=packed>
File:Yr Eglwys Wen St Macella denbigh Dinbych 20.JPG|Cofeb [[Humphrey Lhuyd]]
Yr Eglwys Wen St Macella denbigh Dinbych 18.JPG|Cofeb bres Richard Myddelton yn darlunio 7 o'i ferched
Yr Eglwys Wen St Macella denbigh Dinbych 24.JPG|Cofeb alabastr beintiedig Syr [[John Salusbury]] a'i wraig Jane