Rebecca West: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Erthygl newydd, replaced: cymrodd → cymerodd using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Ysgrifennai mewn sawl ''genre'' gan gynnwys adolygu llyfrau i'r ''[[The Times]]'', y ''[[New York Herald Tribune]]'', y ''[[Sunday Telegraph]]'', a'r ''[[The New Republic]]''. Roedd hefyd yn [[Newyddiaduraeth|ohebydd]] i ''The Bookman''. Mae ei phrif weithiau'n cynnwys: ''[[Black Lamb and Grey Falcon]]'' (1941), ar hanes a diwylliant [[Iwgoslafia]]; ''A Train of Powder'' (1955), disgrifiad ganddi o [[Achosion Llys Nuremberg]], a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn ''[[The New Yorker]]''; ''The Meaning of Treason'', a newidiwyd i ''The New Meaning of Treason'', sef astudiaeth o achos llys y [[ffasgiaeth|ffasgydd]] Seisnig William Joyce ac eraill; ''[[The Return of the Soldier]]'', nofel fodern am y [[Rhyfel Byd Cyntaf]]; a'r "Aubrey trilogy" o'r nofelau hunangofiannol ''The Fountain Overflows'', ''This Real Night'', a ''Cousin Rosamund''.
 
Disgrifiwyd hi yn 1947 yn ''[[Time Magazine|Time]]'' yn "yn bendant, dyma awdur benywaidd gorau'r byd".<ref>[https://www.thegazette.co.uk/London/issue/38628/supplement/2804 ''The London Gazette''], 3 Mehefin 1949, Supplement: 38628, t. 2804.</ref><ref>[https://www.thegazette.co.uk/London/issue/41589/supplement/10 ''The London Gazette''], 30 Rhagfyr 1958, Supplement: 41589, t. 10.</ref>. Defnyddiai'r ffugenw "Rebecca West" o enw arwres y nofel ''[[Rosmersholm]]'' gan [[Henrik Ibsen]].
 
Fe'i ganed yn [[Llundain]] ar [[21 Rhagfyr]] [[1892]] a bu farw yn [[Llundain]] ac fe'i claddwyd ym Mynwent Brookwood. Roedd Anthony West yn blentyn iddi.{{Cyfs personol}}