Ikurrina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Flag of the Basque Country.svg|350px|de|Baner Gwlad y Basg: yr Ikurrina]]
 
'''Ikurrina''' yw'r enw ar faner [[Gwlad y Basg]]. Fe'i sillefir fel "Ikurrina" yn y [[Basgeg]]<ref name=EuskaltzaindiaIkurrina>Euskaltzaindia: [http://www.euskaltzaindia.net/dok/eaeb/hiztegibatua/hiztegibatua.pdf Geiriadur Basgeg Safonol], adalwyd 2010-10-04.</ref> ac "Ikurriña" yn y [[Sbaeneg]]<ref>''Real Academia Española (2001)'': [http://lema.rae.es/drae/?val=ikurri%C3%B1a «ikurriña»], ''Diccionario de la Lengua Española'', Cyfrol 22, ar gael ar-lein. Adalwyd 2014-03-30.</ref>. Defnyddir yr enw fel y gelwir baner [[Y Ddraig Goch]] ar faner Cymru neu'r ''Stars and Stripes'' ar faner [[UDA]]. Mae'n faner swyddogol ar Gymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg (Euskadi) ond cydnabyddir hi'n gyffredinol fel baner i bob un o 7 talaith [[Gwlad y Basg]] (Euskal Herria) er bod peth anghydfod yn ei chylch yn nhalaith Nafar ([[Navarra]] yn Sbaeneg, Nafaroa yn Basgeg).
 
Llinell 28 ⟶ 29:
 
==Nafar==
Bu anghydfod ynghylch chwifio a ddefnyddio'r faner fel un swyddogol yn y dalaith Fasgeg, Nafar (Nafara). Er bod Nafar yn un o saith talaith hanesyddol y Basgiaid ac i'r prifddinas, [[Iruña]] (Pamplona yn Sbaeneg) fod yn brifddinas y brenhinoedd Basgeg, fe geir yno hunaniaeth gan nifer sy'n mynegi ei hunain fel Nafaroaid yn hytrach na Basgwyr. Yn fras mae trigolion i'r gogledd o ddinas Iruña, tra'n falch o'u hunaniaeth Nafar, yn debycach i drigolion talaith Euskadi gan siarad Basgeg a chefnogi pleidiau sydd o blaid undod ac hunanlywodraeth Gwlad y Basg. Mae'r gymuned yn ddwy trydydd waelod y dalaith ac yn yn uniaethu'n gryfach gyda'r wladwriaeth Sbaeneg a'r iaith a'r diwylliant Sbaeneg tra'n eiddigeddus o'r rhyddid a geir ganddynt fel cymuned o fewn Sbaen. Yn yr un modd ag y mae gan tair sir Euskadi (y Gymuned Hunanlywodraethol Basg) yr hawl fel taleithiau 'Foral' i godi a chadw ei threthi, gwelir yr un hawl gan gymuned Nafar hefyd.
 
Yn 2003 yn dilyn mwyafrif llywodraethol gan bleidiau UPN a CDN, pasiodd Senedd Nafar Ddeddf Symbolau Senedd Foral Nafar ar reoli pa faneri caiff eu chwifio mewn swyddfeydd yr awdurod. Yn ôl y ddeddf hon dim ond baneri Nafar a Sbaen caiff eu chwifio tu allan i swyddfeydd ac adeiladau cyhoeddus ac ysgolion y dalaith. Gwaherddir (heblaw mewn achos o ymweliad swyddogol neu efeillio trefi) chwifio unrhyw faneri y tu allan i cynghorau trefol o fewn Nafar heblaw am faneri'r cyngor lleol, Nafar, Sbaen a'r Undeb Ewropeaidd. Yn ôl y ddeddf hon mae'r ikurrina wedi ei gwahardd ac fe all Senedd Nafar atal taliadau i gyngor tref sy'n chwifio'r faner.