Bagaudae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1:
'''Bagaudae''' neu '''Bacaudae''' yw'r enw [[Lladin]] a roddir ar grwpiau arfog, efallai [[gwylliaid]] o ryw fath, yng ngorllewin [[yr Ymerodraeth Rufeinig]], yn enwedig gogledd-orllewin [[Gâl]] am gyfnodau o'r [[3g]] hyd y [[5g]]. Mae'r gair o darddiad Celtaidd, fel yn y gair [[Cymraeg]] a [[Llydaweg]] "bagad".
 
Credir fod y bagaudae yn gymysgedd o filwyr wedi dianc o'r fyddin, caethweision wedi dianc oddi wrth eu perchenogion, ac yn arbennig gwerinwyr wedi gadael eu tiroedd oherwydd pwysau cynyddol y trethi yn yny cyfnod yma a'r difrod yn dilyn ymosodiadau'r barbariaid.
 
Ceir y cofnod cyntaf amdanynt tua [[284]], dan arweiniaid [[Pomponius Élien]]. Gorchfygwyd hwy gan yr ymerawdwr [[Maximinianus]] yn [[286]]. Llwyddodd yr ymerodron [[Aurelian]] a [[Probus]] i'w cadw dan reolaeth am gyfnod, ond bu gwrthryfel to dan [[Diocletian]], gydag [[Amandus]] fel arweinydd. Bu rhagor o wrthryfeloedd y bagaudae yn ystod y [[4g]]. Yn [[435]], bu gwrthryfel dan ''Tibatto'' yn ôl y ''Chronica gallica''; gorchfygwyd ef a'i gymeryd yn garcharor yn [[437]]. Bu gwrthryfel yn [[448]] yng nghanolbarth Gâl, dan arweinydd o'r enw Eudoxe. Gorchfygwyd ef, a ffôdd i lys [[Attila]].