Rhywogaeth glofaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae Rhywogaeth Clofaen yn cyfateb i  garreg clo mewn bwa o gerrig (neu i raddau llai, y conglfaen sy’n cloi dau fur ar gornel adeilad), sef y garreg sydd yn rhoi y nerth i’r holl adeiladwaith. Mae’n [[Rhywogaeth|rywogaeth]] sydd yn cael effaith anghymesur ar ei [[cynefin|gynefin]] o ystyried ei niferoedd. Cyflwynwyd y cysyniad yn wreiddiol gan y sẅolegydd [[Robert T Paine]] yn 1969. Mae rhywogaethau o’r fath yn chwarae rôl critigol yn cynnal strwythur [[cymuned ecolegol]], yn effeithio ar lawer o [[organebau]] mewn [[ecosystem]] ac yn rheoli maint poblogaeth rhywogaethau eraill yn y gymuned honno. Heb rywogaethau conglfaenclofaen, byddai natur yr ecosystem yn sylfaenol wahanol, neu hyd yn oed yn peidio a bod o gwbl. Mae rhai rhywogaethau conglfaenclofaen, fel blaidd, hefyd yn [[Reibydd apigol|reibyddion apigol]], sef rheibyddion ar ben eu [[cadwyn fwyd]], ond mae eraill, fel yr [[afanc]], yn saernïo ei gynefin ar lefel îs yn y [[we fwyd]].
 
Er mai anifeiliaid yw’r rhywogaethau conglfaen mwyaf amlwg, fe all hefyd gynnwys planhigion. Er enghraifft, mae yna gyfnod pob blwyddyn mewn ardal o Orllewin Awstralia pan fo’r unig ffynhonnell o neithdar i grwp o felysorion[Llên Natur: Gwefan Natur i Bobl Cymru - Y Bywiadur] yw’r planhigyn Banksia prionotes. Mae’r melysorion ar adegau erall o’r fleyddyn yn chwarae rôl hanfodol yn peillio llawrr o rywogaethau eraill yn y gymuned honno. Felly heb y bankia byddai’r gymyned yn dymchwel.
 
Estynwyd y cysyniad gan  Sergio Cristancho a Joanne Vining<ref>{{cite book|title=International Symposium on Society and Resource Management Bellingham, W. (2000). Book of abstracts: 8th International Symposium on Society and Resource Management : June 17-22, 2000, Bellingham, Washington, USA. Portland, Or.|publisher=U.S. Dept. of Agriculture, Forest Service, Pacific Northwest Research Station|url=https://babel.hathitrust.org/cgi/pt?id=umn.31951d02977208j;view=1up;seq=72}}</ref> i gynnwys rhywogaethau conglfaen diwylliannol, sef rhywogaethau sydd yn hanfodol y ddiwylliant cyfan o bobl.