Rhywogaeth glofaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae Rhywogaeth Clofaen yn cyfateb i  garreg clo mewn bwa o gerrig (neu i raddau llai, y conglfaen sy’n cloi dau fur ar gornel adeilad), sef y garreg sydd yn rhoi y nerth i’r holl adeiladwaith. Mae’n [[Rhywogaeth|rywogaeth]] sydd yn cael effaith anghymesur ar ei [[cynefin|gynefin]] o ystyried ei niferoedd. Cyflwynwyd y cysyniad yn wreiddiol gan y sẅolegydd [[Robert T Paine]] yn 1969. Mae rhywogaethau o’r fath yn chwarae rôl critigol yn cynnal strwythur [[cymuned ecolegol]], yn effeithio ar lawer o [[organebau]] mewn [[ecosystem]] ac yn rheoli maint poblogaeth rhywogaethau eraill yn y gymuned honno. Heb rywogaethau clofaen, byddai natur yr ecosystem yn sylfaenol wahanol, neu hyd yn oed yn peidio a bod o gwbl. Mae rhai rhywogaethau clofaen, fel [[blaidd]], hefyd yn [[Reibyddysglyfaethwyr]] apigol|reibyddion apigol]], sef [[rheibydd|rheibyddion]]rheibwyr ar ben eu [[cadwyn fwyd]], ond mae eraill, fel yr [[afanc]], yn saernïo ei gynefin ar lefel îs yn y [[gwe fwyd|we fwyd]].
 
Er mai anifeiliaid yw’r rhywogaethau conglfaen mwyaf amlwg, fe all hefyd gynnwys planhigion. Er enghraifft, mae yna gyfnod pob blwyddyn mewn ardal o Orllewin Awstralia pan fo’r unig ffynhonnell o neithdar i grwp o felysorion[Llên Natur: Gwefan Natur i Bobl Cymru - Y Bywiadur] yw’r planhigyn Banksia prionotes. Mae’r melysorion ar adegau erall o’r fleyddyn yn chwarae rôl hanfodol yn peillio llawrr o rywogaethau eraill yn y gymuned honno. Felly heb y bankia byddai’r gymyned yn dymchwel.