Rhywogaeth glofaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 1:
Mae'r cysyniad o Rywogaeth Glofaen yn cyfateb i garreg clo mewn bwa o gerrig (neu i raddau llai, y conglfaen sy’n cloi dau fur ar gornel adeilad), sef y garreg sydd yn rhoi y nerth i’r holl adeiladwaith. Mae’n [[Rhywogaeth|rywogaeth]] sydd yn cael effaith anghymesur ar ei [[cynefin|gynefin]] o ystyried ei niferoedd. Cyflwynwyd y cysyniad yn wreiddiol gan y sẅolegydd [[Robert T Paine]] yn 1969<ref name="paine1969">{{cite journal |author=Paine, R. T. |year=1969 |title=A Note on Trophic Complexity and Community Stability |journal=The American Naturalist |volume=103 |issue=929 |pages=91–93 |doi=10.1086/282586 |jstor=2459472}}</ref><ref>{{cite web| title=Keystone Species Hypothesis |url=http://www.washington.edu/research/pathbreakers/1969g.html | publisher=University of Washington | accessdate=2011-02-03| url-status=dead| archiveurl=https://web.archive.org/web/20110110060757/http://www.washington.edu/research/pathbreakers/1969g.html| archivedate=2011-01-10}}</ref> Mae rhywogaethau o’r fath yn chwarae rôl critigol yn cynnal strwythur [[cymuned ecolegol]], yn effeithio ar lawer o [[organebau]] mewn [[ecosystem]] ac yn rheoli maint poblogaeth rhywogaethau eraill yn y gymuned honno. Heb rywogaethau clofaen, byddai natur yr ecosystem yn sylfaenol wahanol, neu hyd yn oed yn peidio a bod o gwbl. Mae rhai rhywogaethau clofaen, fel [[blaidd]], hefyd yn [[ysglyfaethwyr]] apigol, sef rheibwyr ar ben eu [[cadwyn fwyd]], ond mae eraill, fel yr [[afanc]], yn saernïo ei gynefin ar lefel îs yn y [[cadwyn fwyd|we fwyd]].
 
Er mai anifeiliaid yw’r rhywogaethau clofaen gan fwyaf mwyaf, fe all hefyd gynnwys planhigion. Er enghraifft, mae yna gyfnod pob blwyddyn mewn ardal o Orllewin Awstralia pan fo’r unig ffynhonnell o neithdar i grwp o felysorion[https://www.llennatur.cymru/Y-Bywiadur#Melysor] yw’r planhigyn ''Banksia prionotes''. Mae’r melysorion ar adegau erall o’r flwyddyn yn chwarae rôl hanfodol yn peillio llawer o rywogaethau eraill yn y gymuned honno. Felly heb y banksiabancsia byddai’r gymyned yn dymchwel.
 
Estynwyd y cysyniad gan Sergio Cristancho a Joanne Vining<ref>{{cite book|title=International Symposium on Society and Resource Management Bellingham, W. (2000). Book of abstracts: 8th International Symposium on Society and Resource Management : June 17-22, 2000, Bellingham, Washington, USA. Portland, Or.|publisher=U.S. Dept. of Agriculture, Forest Service, Pacific Northwest Research Station|url=https://babel.hathitrust.org/cgi/pt?id=umn.31951d02977208j;view=1up;seq=72}}</ref> i gynnwys rhywogaethau conglfaen diwylliannol, sef rhywogaethau sydd yn hanfodol y ddiwylliant cyfan o bobl.