Jacques Lefèvre d'Étaples: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732 Tagiau: Golygiad cod 2017 |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 20:20, 6 Awst 2020
Diwinydd Ffrengig a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Jacques Lefèvre d'Étaples (Lladin: Johannes Faber Stapulensis; tua 1455 – Mawrth 1536).
Jacques Lefèvre d'Étaples | |
---|---|
Ganwyd | 1450 Étaples |
Bu farw | Mawrth 1536 Nérac |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | diwinydd, cyfieithydd, athronydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, cerddolegydd, cyfieithydd y Beibl, henuriad |
Cyflogwr |
Ganed yn Étaples yn rhanbarth Picardi, Teyrnas Ffrainc. Astudiodd ym Mhrifysgol Paris, ac enillodd ei radd baglor ym 1479 a'i radd meistr ym 1480. Dysgodd yr iaith Roeg ym Mharis dan diwtoriaeth yr ysgolhaig alltud Georgius Hermonymus. Ymunodd Lefèvre â chyfadran y celfyddydau breiniol, ac addysgodd athroniaeth i fyfyrwyr o 1490 i 1507.[1][2]
Bu farw yn Nérac yn ne-orllewin Ffrainc.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), t. 227.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Jacques Lefèvre d'Étaples. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Awst 2020.