Louis Hémon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.5.2) (robot yn ychwanegu: ro:Louis Hémon
Micki (sgwrs | cyfraniadau)
B Add image from http://tools.wikimedia.de/~emijrp/imagesforbio/
Llinell 1:
[[Delwedd:Louis Hémon.jpg|thumb|right|Louis Hémon]]
Nofelydd Ffrengig oedd '''Louis Hémon''' ([[11 Hydref]] [[1880]] - [[8 Gorffennaf]] [[1913]]). Cafodd ei eni yn ninas [[Brest]], Llydaw, yn fab i arolygwr ysgolion, a'i addysgu ym [[Paris|Mharis]]. Er iddo gael swydd dan y wladwriaeth, roedd ynddo ysbryd rhydd, ac ymddiswyddodd o'i swydd er mwyn cael crwydro. Treuliodd wyth blynedd yn [[Lloegr]] yn weithio fel athro Ffrangeg ac yn ysgrifennu nifer o nofelau .Yn 1911 aeth i Ganada, lle gweithiodd fel clerc swyddog ac fel cyfieithydd yn [[Montréal]], ac yma yr ysgrifennodd ei nofel enwog ''[[Maria Chapdelaine]]''. Bu hefyd yn was fferm am ddau fis yn nyffryn Péribonka ger Llyn St Jean. Ar ôl gadael y fferm crwydrodd tua'r gorllewin ym mis Mehefin 1913, tuag at [[Ontario]] a'r [[Llynnoedd Mawr]]. Ar [[8 Gorffennaf]] [[1913]] tra roedd yn cerdded ar hyd rheilffordd fe'i trawyd a'i ladd gan drên ger [[Chapleau]], [[Ontario]].