Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Penllyn"

Ychwanegwyd 971 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
ehangu
(Tudalen newydd: '''Penllyn''' yw'r ardal sydd o gwmpas Llyn Tegid a'r Bala ym Meirionnydd (de-ddwyrain Gwynedd). Mae'n cynnwys plwyfi Llandderfel, Llanfor, [[Llangywai...)
 
(ehangu)
'''Penllyn''' yw'r ardal sydd o gwmpas [[Llyn Tegid]] a'r [[Y Bala|Bala]] ym [[Meirionnydd]] (de-ddwyrain [[Gwynedd]]). Mae'n cynnwys plwyfi [[Llandderfel]], [[Llanfor]], [[Llangywair]], [[Llanycil]] a [[Llanuwchllyn]]. Mae Penllyn yn ardal sy'n enwog am ei chyfraniad i ddiwylliant Cymru a [[llenyddiaeth Gymraeg]]. Dyma ardal "[[Y Pethe]]", chwedl [[Llwyd o'r Bryn]].
 
==Cantref Penllyn==
Yn [[Oes y Tywysogion]] [[cantref]] oedd [[Penllyn]]. Cynhelid ei lys yn [[Caer Gai|Nhgaer Gai]], ger [[Llyn Tegid]], ond yn ddiweddarach fe'i symudwyd i'r [[Y Bala|Bala]]. Roedd yn gantref ar y ffin rhwng [[teyrnas Gwynedd]] a [[Teyrnas Powys|Phowys]]. Ymddengys iddo ddechrau fel [[arglwyddiaeth]] annibynnol. Cysylltir yr arwr chwedlonol [[Gronw Pebyr]] â Phenllyn ym [[Math fab Mathonwy|Mhedwaredd Gainc]] [[Pedair Cainc y Mabinogi|y Mabinogi]]. Aeth yn rhan o deyrnas Powys yn y cyfnod cynnar. Roedd yn fan o bwys strategol yn gorwedd rhwng [[Ardudwy]] a [[Meirionnydd]] yn y gorllewin a [[Glyndyfrdwy]] yn y dwyrain a cheisiai tywysogion Gwynedd sicrhau meddiant arno er mwyn amddiffyn Gwynedd o ymosodiadau o du Powys a'r dwyrain. Fe'i cipiwyd yn derfynol gan [[Llywelyn Fawr]] ar ddechrau'r [[13eg ganrif]]. Ar ôl goresgyniad [[1284]] fe'i unwyd â Meirionnydd ac Ardudwy i greu [[Sir Feirionnydd]].
 
==Rhai o enwogion Penllyn==
[[Categori:Diwylliant Cymru]]
[[Categori:Llenyddiaeth Gymraeg]]
[[Categori:Rhanbarthau traddodiadolCantrefi Cymru]]
[[Categori:Meirionnydd]]
[[Categori:Gwynedd]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
[[Categori:Teyrnas Powys]]