Sgwrs:Dyneiddiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Garik (sgwrs | cyfraniadau) Dau honiad camarweiniol yng nghyflwyniad yr erthygl |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 15:43, 3 Medi 2011
Honiadau camarweiniol
Mae dau honiad yng nghyflwyniad yr erthygl hon sydd braidd yn gamarweiniol. Yn gyntaf, mae'r erthygl yn honni bod "gan ddyneiddiwr ffydd mewn adnoddau meddyliol dyn i ddod a gwybodaeth a dealltwriaeth i’r byd, ac i ddatrys y broblemau moesol ynghlyn a defnyddio’r gwybodaeth hwn." Mae'n wir bod dyneiddwyr yn credu mai adnoddau meddyliol dyn y dylwn ni eu defnyddio i geisio deall y byd a datrys problemau, ond dwi'n meddwl bod y gair "ffydd" yn camarwain y darllenydd. Safbwynt dyneiddwyr modern yw nad oes adnoddau gwell ar gael, ac y dylwn ni eu defnyddio i geisio datrys problemau'r byd. Ond dydy hyn ddim yn golygu bod gan ddyneiddwyr ffydd llwyr y gall adnoddau dynol ddatrys pob problem (ac mae'r testun presennol yn awgrymu hyn). Yn ail, honnir bod "Dyn yw mesur popeth" yn gyweirnod i ddyneiddiaeth. Yn hanesyddol mae'n bosib bod hyn yn wir, ond dwi'n amheugar iawn am gymwysiadolrwydd y dyfyniad hwn i ddyneiddwyr modern. Dwi hefyd yn anfodlon bod Llywelyn2000 wedi gwrthdroi fy ngolygiadau heb unrhyw eglurhad o gwbl. Dwi'n hollol fodlon i drafod pethau fan hyn cyn mynd yn bellach, ond dwi ddim yn fodlon i gael fy nhrin fel fandal. Garik 15:43, 3 Medi 2011 (UTC)