Sgwrs:Dyneiddiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Garik (sgwrs | cyfraniadau)
Dau honiad camarweiniol yng nghyflwyniad yr erthygl
 
Dweud syml a naturiol...
Llinell 1:
==Honiadau camarweiniol==
Mae dau honiad yng nghyflwyniad yr erthygl hon sydd braidd yn gamarweiniol. Yn gyntaf, mae'r erthygl yn honni bod "gan ddyneiddiwr ffydd mewn adnoddau meddyliol dyn i ddod a gwybodaeth a dealltwriaeth i’r byd, ac i ddatrys y broblemau moesol ynghlyn a defnyddio’r gwybodaeth hwn." Mae'n wir bod dyneiddwyr yn credu mai adnoddau meddyliol dyn y dylwn ni eu defnyddio i geisio deall y byd a datrys problemau, ond dwi'n meddwl bod y gair "ffydd" yn camarwain y darllenydd. Safbwynt dyneiddwyr modern yw nad oes adnoddau gwell ar gael, ac y dylwn ni eu defnyddio i ''geisio'' datrys problemau'r byd. Ond dydy hyn ddim yn golygu bod gan ddyneiddwyr ffydd llwyr y gall adnoddau dynol ddatrys pob problem (ac mae'r testun presennol yn awgrymu hyn). Yn ail, honnir bod "Dyn yw mesur popeth" yn gyweirnod i ddyneiddiaeth. Yn hanesyddol mae'n bosib bod hyn yn wir, ond dwi'n amheugar iawn am gymwysiadolrwydd y dyfyniad hwn i ddyneiddwyr modern. Dwi hefyd yn anfodlon bod Llywelyn2000 wedi [http://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Dyneiddiaeth&action=historysubmit&diff=1065750&oldid=1065596 gwrthdroi fy ngolygiadau] heb unrhyw eglurhad o gwbl. Dwi'n hollol fodlon i drafod pethau fan hyn cyn mynd yn bellach, ond dwi ddim yn fodlon i gael fy nhrin fel fandal. [[Defnyddiwr:Garik|Garik]] 15:43, 3 Medi 2011 (UTC)
 
:Diolch am dy gyfraniad ac am ymestyn syniadaeth yr erthygl.. Mae'n ddrwg gen i wna wnes i adael sylwadau'n egluro pan wnes i droi'r testun yn ol [http://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Dyneiddiaeth&diff=next&oldid=1065596 yma]. A diolch am ddod yn ol ataf. Mi wnes i hynny oherwydd fod dy ychwanegiad (ar y chwith i'r dudalen uchod, mewn coch, yn cymhlethu'r frawddeg gan ei gwneud hi'n anodd ei deall. Mae dy ychwanegiad yn cynnwys cromfachau mewn isgymal ar ddiwedd y frawddeg - arddull anarferol os nad anghywir. Mae croeso i ti ychwanegu'r syniadau sydd gen ti eto, mewn modd symlach. Yn wir, fel y dywedi, mae angen gwella'r erthygl hon, cynnwys cyfeiriadau Cymreig a thacluso'i hiaith hefyd. Croeso i ti wneud hynny, mi dria inna pan gaf gyfle. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 22:59, 3 Medi 2011 (UTC)
Nôl i'r dudalen "Dyneiddiaeth".