Afon Rhondda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae '''Afon Rhondda''' yn afon yn ne [[Cymru]] sy'n cael ei ffurfio panlle mae dwy afon, yafonydd Rhondda Fawr a'r Rhondda Fach yn cyfarfod. Er gwaethaf eu henwau mae'r dwy tua'r un hyd.
 
Mae Afon Rhondda Fawr yn tarddu ger [[Llyn Fawr]] ac yn llifo i lawr [[Cwm Rhondda]] i ymuno ag [[Afon Tâf (Caerdydd)|Afon Tâf]] gerllaw [[Pontypridd]]. Mae'n llifo trwy [[Blaenrhondda]] lle mae Nant y Gwair yn ymuno a hi, yna trwy gyfres o bentrefi a threfi glofaol yn cynnwys [[Treherbert]], [[Treorci]], [[Pentre]], [[Ton Pentre]], [[Ystrad Rhondda]], [[Llwynypia]], [[Tonypandy]], Dinas, [[Porth]] a [[Trehafod]].
Llinell 5:
Ceir tarddiad Afon Rhondda Fach ar y bryniau uwchben Blaenrhondda, yn agos i darddiad y Rhondda Fawr. Mae'n llifo trwy gronfa Lluestwen yna trwy [[Maerdy]] a [[Ferndale]], [[Tylorstown]] ac [[Ynyshir]] cyn ymuno a Rhondda Fawr yn y Porth.
 
Ym mlynyddoedd mawr y diwydiant [[glo]], yr oedd dŵr o'r glofeydd yn cael ei bwmpio yn syth i'r afon, ac roedd hyn yn ogystal a charthffosiaeth annigonol yn creu llygredd difrifol yn yr afon. Ers dechrau'r [[1970au]] mae ansawdd dŵr yr afon wedi gwella'n raddol.
 
[[Categori:Afonydd Cymru|Rhondda]]
[[Categori:Afonydd]]
 
[[en:River Rhondda]]