Sgwrs:Dyneiddiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Garik (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 3:
:Diolch am eich cyfraniad ac am ymestyn syniadaeth yr erthygl.. Mae'n ddrwg gen i wna wnes i adael sylwadau'n egluro pan wnes i droi'r testun yn ol [http://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Dyneiddiaeth&diff=next&oldid=1065596 yma]. A diolch am ddod yn ol ataf. Mi wnes i hynny oherwydd fod eich ychwanegiad (ar y chwith i'r dudalen uchod, mewn coch) yn cymhlethu'r frawddeg gan ei gwneud hi'n anodd ei deall. Mae'ch ychwanegiad yn cynnwys cromfachau mewn isgymal ar ddiwedd y frawddeg - arddull anarferol os nad anghywir. Mae croeso i chi ychwanegu'r syniadau sydd gynnoch chi eto, mewn modd symlach. Yn wir, fel y dywedwch, mae angen gwella'r erthygl hon, cynnwys cyfeiriadau Cymreig a thacluso'i hiaith hefyd. Croeso i chi wneud hynny, mi dria inna pan gaf gyfle. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 22:59, 3 Medi 2011 (UTC)
::Diolch am eich ateb, Llywelyn. Fel ieithydd, dwi'n fwy amheus ynglŷn ag anarferoldeb cromfachau mewn isgymal ar ddiwedd brawddeg (a go brin fod cwestiynau arddulliadol fel hyn yn fater o "gywir" ac "anghywir"). Er hynny, dwi'n hollol barod i gyfaddef nad oedd fy newidiadau wedi eu mynegi'n dda iawn; wnes i'r golygiad ar frys, ac mi oeddwn i'n bwriadu mynd ati i dacluso'r erthygl, yn cynnwys fy nghyfraniad i, pan fyddai mwy o amser gennyf. Ac dwi o hyd yn gobeithio cael yr amser i wneud hynny, efallai tua diwedd yr wythnos. [[Defnyddiwr:Garik|Garik]] 16:37, 4 Medi 2011 (UTC)
|