Mercantiliaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
B dol
Llinell 1:
Ideoleg economaidd yw '''mercantiliaeth''' sydd yn ceisio cynyddu [[masnach]] er [[buddiannau'r wlad]]. Mae'n galw ar y llywodraeth i weithredu polisïau a rheoliadau er mantais yn nhermau'r cydbwysedd masnach, ar draul gwledydd eraill. Cefnogir y [[Diwydiant cynradd|diwydiannau cynradd]] ([[amaeth]] a [[mwyngloddio]]) ac [[diwydiant eilaidd|eilaidd]] ([[gweithgynhyrchu]]) i gynnal economi hunan-gynhaliol ac i greu gormodedd o nwyddau i'w hallforio. Ymdrechir i beidio â dibynnu ar fewnforion, oni bai am y pethau na ellir eu canfod neu eu cynhyrchu yn fewnwladol. Trwy hynny, y nod yw cynyddu cronfeydd ariannol y wlad a sicrhau [[arian cyfred]] cryf.
 
Bu mercantiliaeth ar ei hanterth yn Ewrop o'r 16g hyd y 18g, ac yn hanesyddol bu'n anelu at gynyddu'r cronfeydd [[aur]] ac [[arian (elfen)|arian]] yn y trysorlys.