37,846
golygiad
Kgsbot (sgwrs | cyfraniadau) B (robot yn ychwanegu: ml:നീയസ് ജൂലിയസ് അഗ്രിക്കോള) |
Deb (sgwrs | cyfraniadau) No edit summary |
||
::''Gweler hefyd [[Agricola (gwahaniaethu)]].''
Milwr a gwladweinydd o [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rufeiniad]] oedd '''Gnaeus Julius Agricola''' neu '''Agricola''' ([[13 Mehefin]] [[40]] - [[23 Awst]] [[93]] O.C.), a aned yn nhref [[Forum Julii]] yn nhalaith [[Gallia Narbonensis]] ([[Fréjus]] heddiw, ym [[Profens|Mhrofens]], de [[Ffrainc]]). Ysgrifenodd ei fab-yng-nghyfraith [[Tacitus]] fywgraffiad canmoliaethus ar Agricola, y ''[[De vita Iulii Agricolae]]'' (neu'r ''Agricola''). Dyma brif ffynhonnell ein gwybodaeth amdano, ynghyd â'r ''[[Croniclau (Tacitus)|Annales]]'' (llyfr arall gan Tacitus).
Gwasanaethodd ym [[Y Brydain Rufeinig|Mhrydain]], [[Asia (talaith Rufeinig)|Asia]] ac [[Aquitania]] gan ennill bri iddo'i hun. Cafodd ei ethol yn [[Conswl Rhufeinig|gonswl]] yn [[77]] O.C. a dychwelodd i Brydain fel [[Rhestr Llywodraethwyr Rhufeinig Prydain|llywodraethwr]] ar y dalaith newydd yn 77 neu [[78]], yn olynydd i [[Sextus Julius Frontinus]]. Agricola oedd yn bennaf cyfrifol am osod awdurdod Rhufain ar y [[Brythoniaid|llwythau Celtaidd ym Mhrydain]] a oedd yn dal i wrthsefyll y trefedigaethwyr Rhufeinig. Ychydig cyn iddo gyrraedd Prydain fel llywodraethwr yr oedd yr [[Ordoficiaid]] yng nghanolbarth a gogledd-orllewin Cymru wedi codi mewn gwrthryfel ac wedi llwyr ddinistrio corff o ŵyr meirch. Arweiniodd Agricola ymgyrch yn eu herbyn yn syth ar ôl cyrraedd Prydain, a'u llwyr orchfygu. Yn ôl Tactitus, lladdodd bob copa gwalltog o'r llwyth, ond o ystyried natur tiriogaeth y llwyth yma prin y byddai hynny'n bosibl.
|