Bwrdeistref sirol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 2:
 
==Hanes==
Wrth greu [[Cyngor Sir|cynghorau sir]] ym 1889, dan [[Deddf Llywodraeth Leol 1888|Ddeddf Llywodraeth Leol 1888]], crëwyd hefyd y bwrdeistrefifwrdeistrefi sirol ar gyfer y dinasoedd mawr oedd eisoes gyda chorfforaeth i redeg prif swyddogaethau awdurdod lleol.
 
Effaith statws bwrdeistref sirol oedd bod yr awdurdod hwnnw â'r swyddogaeth o redeg rhai o brif wasanaethau llywodraeth leol, megis [[addysg]], a fuasai fel arall yn gyfrifoldeb i'r cyngor sir. Roedd [[bwrdeistref]]i a dosbarthau eraill o fewn y sir yn bod, ond heb gynnal yr un swyddogaethau.
Llinell 9:
 
==Adferiad yng Nghymru==
Ym 1996, dan [[Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994|Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994]], fe ail-drefnwyd awdurdodau lleol Cymru ar ffurf awdurdodau unedol, gan adfer y bwrdeistreffwrdeistref sirol. Dan y ddeddf, roedd pob ardal llywodraeth leol un ai yn [[sir]] neu yn fwrdeistref sirol, gyda'r Cyngor felly yn Gyngor Sir neu yn Gyngor Bwrdeistref Sirol. Nid oes gwahaniaeth o gwbl yn swyddogaethau'r cynghorau hyn. Yr unig wahaniaeth ymarferol yw bod cadeirydd bwrdeistref sirol yn defnyddio'r teitl '[[Maer]]'.
 
I bob pwrpas mae'r teitl 'bwrdeistref sirol' yn cael ei anwybyddu ar lafar ac yn wir yn y cyfryngau yn gyffredinol, yn cynnwys [[BBC Cymru]], ac mae'n arferol cyfeirio atynt fel 'siroedd' yn unig, e.e. 'Sir Conwy' yn lle [[Conwy (sir)|Bwrdeistref Sirol Conwy]] ac 'yn y sir' yn lle 'yn y bwrdeistreffwrdeistref sirol'.
 
==Rhestr Bwrdeistrefi Sirol Cymru==