Hen Wlad fy Nhadau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Hen Wlad fy Nhadau''' yw anthem genedlaethol [[Cymru]], anthem ardderchog sy'n dathlu popeth sy'n ganmoladwy am Gymru a'i hiaith, ac hoff gân corau meibion Cymreig lle bynnag maent yn perfformio, a chefnogwyr timau chwaraeon Cymru lle bynnag maent yn chwarae. Ysgrifenwyd geiriau'r anthem gan [[Evan James]] (1809-1878), a chyfansoddwyd y dôn gan ei fab [[James James]] (1833-1902) ym mis Ionawr [[1856]]. Roedd y ddau yn drigolion o [[Pontypridd|Bontypridd]].
 
Perfformiwyd y gân, neu Glan Rhondda fel y gelwid hi’n wreiddiol, am y tro cyntaf yn festri Capel Tabor, [[Maesteg]] unai ym mis Ionawr neu Chwefror, 1856 gan gantores leol, Elizabeth John, ac wedi hynny, daeth y gân yn boblogaidd drwy'r ardal. Daeth hi'n fwy adnabyddus fyth yn [[Eisteddfod]] [[Llangollen]], [[1858]], ar ôl i [[Thomas Llewelyn]] o [[Aberdâr]] ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig oedd heb eu cyhoeddi. Yn [[Rhuthun]] y cafodd ei hargraffu yn gyntaf - yn yr adeilad du-a-gwyn a ddefnyddir heddiw yn gaffi 'Siop Nain'.