Peter Hope Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 18:
Treuliodd llawer o’i amser ar [[Ynys Enlli|Enlli]], gan gynnwys 12 mis yn ystod 1984/5. Bu’n gasglwr obsesiynol o bopeth am Enlli ers 1959, a bu’n olygydd adroddiad y Wylfa Adar yno ers 1999. Tra’n byw ar yr ynys bu’n gweithio ar The Natural History of Bardsey a gyhoeddwyd gan [[Gwasg Prifysgol Cymru|Wasg Prifysgol Cymru]] yn 1988. Mae’n parhau I fod y cyflwyniad cyffredinol gorau o fywyd gwyllt yr ynys. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach cyhoeddodd Between Sea and Sky, casgliad meistrolgar o’i luniau, pob un â dyfyniad o farddoniaeth ei gyfaill [[R.S. Thomas]], ficer [[Aberdaron]] a ymwelai yn aml ag Enlli.
===Ymestyn ei faes===
Yn ngwanwyn 1986 cychwynnodd brosiect I’r [[RSPB]] ar statws ac ecoleg y [[grugiar ddu]] yng Nghymru, o safle yn [[Y Bala]]. Ar ôl ysgrifennu ei adroddiad ar y gwaith y flwyddyn wedyn fe’i rhwystrwyd gan iechyd gwael rhag parhau oherwydd y gwaith maes llafurus byddai gofyn iddo wneud. Fis Hydref 1987 cofrestrodd gyda’r Coleg Llyfryddiaeth yn Aberystwyth fel yr hynaf mewn dosbarth o 80, ac yn 1990 cyflwynodd draethawd hir Meistr ar y testun ''the feasibility of creating a wildlife database for Wales''. Bu'n
===Ar ôl ymddeol===
|