Peter Hope Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 16:
Yn 1976 fe’i apwyntwyd gan yr RSPB yn ecolegydd adar môr ar yr [[Ynysoedd Erch]] lle sefydlodd gyfres o glogwyni nythu addas I’w harolygu’n flynyddol, yn ogystal a system o fonitro cyrff adar wedi eu tirio ar y traeth. Ar ddiwedd y contract hwn aeth i [[Llydaw|Lydaw]] i helpu [[ecoleg|ecolegwyr]] yno i astudio’r adar effeithiwyd gan ddrylliad yr [[Amoco Cadiz]], ac yna i [[Sir Benfro|sir Benfro]] pan diriwyd tancer y [[Christos Bitas]]. Treuliodd wedyn dair blynedd yn [[Aberdeen]] fel rhan o dim 4-dyn Prosiect Adar-môr ar y Môr. Treulient cymaint o amser a phosibl ar y môr; yn achos Jones cynhwysai hyn bump wythnos ar lwyfan olew yn gysylltiedig â [[Brent Bravo]] yn hydref 1979. Cyhoeddwyd ei arsylwadau ar mudo’r adar a welodd fwrdd y llwyfan yn y cylchgrawn [[British Birds]].
===Enlli===
Treuliodd llawer o’i amser ar [[Ynys Enlli|Enlli]], gan gynnwys 12 mis yn ystod 1984/5. Bu’n gasglwr obsesiynol o bopeth am Enlli ers 1959, a bu’n olygydd adroddiad y Wylfa Adar yno ers 1999. Tra’n byw ar yr ynys bu’n gweithio ar ''The Natural History of Bardsey'' a gyhoeddwyd gan [[Gwasg Prifysgol Cymru|Wasg Prifysgol Cymru]] yn 1988. Mae’n parhau I fod y cyflwyniad cyffredinol gorau o fywyd gwyllt yr ynys. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach cyhoeddodd ''Between Sea and Sky'', casgliad meistrolgar o’i luniau, pob un â dyfyniad o farddoniaeth ei gyfaill [[R.S. Thomas]], ficer [[Aberdaron]] a ymwelai yn aml ag Enlli.
 
===Ymestyn ei faes===
Yn ngwanwyn 1986 cychwynnodd brosiect I’r [[RSPB]] ar statws ac ecoleg y [[grugiar ddu]] yng Nghymru, o safle yn [[Y Bala]]. Ar ôl ysgrifennu ei adroddiad ar y gwaith y flwyddyn wedyn fe’i rhwystrwyd gan iechyd gwael rhag parhau oherwydd y gwaith maes llafurus byddai gofyn iddo wneud. Fis Hydref 1987 cofrestrodd gyda’r Coleg Llyfryddiaeth yn Aberystwyth fel yr hynaf mewn dosbarth o 80, ac yn 1990 cyflwynodd draethawd hir Meistr ar y testun ''the feasibility of creating a wildlife database for Wales''. Bu'n llyfrgellydd yn y pencadlys ym Mangor cyn ymddeol am gyfnod, a'i fryd, hyd yn oed y pryd hynny, oedd ar sefydlu technegau digidol i gadw lluniau a dogfennau - ar ddisg yn y cyfnod hwnnw (er yn rhyfeddol, mae’n debyg nad oedd erioed yn berchen ar ei gyfrifiadur personol!). Ail-ymunoodd â’r gwaith ym Mangor fel Ecolegydd Monitro, gan sefydlu tim o weithwyr a ddatblygodd yn rhaglen fonitro Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Arloesodd y dechneg o fonitro o’r unlle, gan ddatblygu dull o ddal cywreinrwydd newidiadau naturiol mewn cynefin ac a arddangosodd ei sgiliau ffotograffig a’i lygad am fanylder. Bu'r swydd hon yn gweddu, nid yn unig i'w gorff oedd yn gwanhau ond i'r cymhwyster llyfrgellyddol a oedd ganddo.