Jacques Lefèvre d'Étaples: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
ehangu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 2:
[[Diwinydd]] [[Ffrancod|Ffrengig]] a [[dyneiddiaeth y Dadeni|dyneiddiwr]] yng nghyfnod [[y Dadeni Dysg]] oedd '''Jacques Lefèvre d'Étaples''' ({{iaith-la|Johannes Faber Stapulensis}}; tua [[1455]] – [[Mawrth]] [[1536]]).
 
Ganed yn Étaples yn rhanbarth [[Picardi]], [[Teyrnas Ffrainc]]. AstudioddCafodd ei ordeinio'n offeiriad ac astudiodd ym [[Prifysgol Paris|Mhrifysgol Paris]], ac enillodd ei radd baglor ym 1479 a'i radd meistr ym 1480. Dysgodd yr iaith [[Groeg (iaith)|Roeg]] ym Mharis dan diwtoriaeth yr ysgolhaig alltud [[Georgius Hermonymus]]. Aeth i'r [[Eidal]] ym 1492 a 1500 i wella'i wybodaeth o [[llenyddiaeth Groeg yr Henfyd|lenyddiaeth Groeg yr Henfyd]] ac i astudio cyfriniaeth y [[neo-Platoniaeth|neo-Platoniaid]]. Ymunodd Lefèvre â chyfadran [[y celfyddydau breiniol]], ac addysgodd athroniaeth i fyfyrwyr o 1490 i 1507.<ref name=Nauert>Charles G. Nauert, ''Historical Dictionary of the Renaissance'' (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), t. 227.</ref><ref name=Britannica/>
 
Yn y cyfnod 1492–1506 ysgrifennodd Lefèvre lawlyfrau i fyfyrwyr ar bynciau ffiseg a mathemateg a chyhoeddodd gyfieithiadau anodiadol ac aralleiriadau o weithiau [[Aristoteles]] am foeseg, metaffiseg, a gwleidyddiaeth. Ymdrechai Lefèvre yn ei waith ddatgysylltu astudiaethau crefyddol oddi wrth yr hen ddulliau [[ysgolaeth|ysgolaidd]]. Cafodd ei syniadau ddylanwad ar ddisgyblion a fuasent yn arweinwyr a meddylwyr blaenllaw yn [[y Diwygiad Protestannaidd]], gan gynnwys [[Guillaume Farel]], neu yn ddyneiddwyr o fri megis yr Hebrëydd [[François Vatable]]. Dechreuodd gwestiynu yr uniongrededd Gatholig, ac ym 1505, dan ddylanwad daliadau cymunedol ac ysgolheigaidd [[Brodyr y Bywyd Cyffredin]], fe drodd at gyfriniaeth. Cyhoeddodd gyfrolau o fyfyrdodau cyfriniol gan [[Ramon Llull]], [[Jan van Ruysbroeck]], a [[Nikolaus von Kues]]. Cafodd dau o weithiau Lefèvre – ei drosiadau o bum [[Llyfr y Salmau|Salm]] i'r Lladin, ''Psalterium quintuplex'' (1509), a'i esboniad o [[Llythyrau Paul|Lythyrau Paul]], ''Commentaires sur saint Paul'' (1512) – ddylanwad ar [[Martin Luther]].
Bu farw yn Nérac yn ne-orllewin Ffrainc.<ref name=Britannica>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Jacques-Lefevre-dEtaples |teitl=Jacques Lefèvre d'Étaples |dyddiadcyrchiad=6 Awst 2020 }}</ref>
 
Ym 1507 symudodd Lefèvre i Abaty Saint-Germain-des-Prés, ym Mharis, lle'r oedd ei gyn-ddisgybl, Guillaume Briçonnet, yn abad. Am ei weithiau ''De Maria Magdalena'' (1517) a ''De tribus et unica Magdalena'' (1519), sydd yn honni undod y tair Mair a enwir yn [[yr Efengylau]], cafodd Lefèvre ei gondemnio gan Brifysgol Paris ym 1521. Ymhlith ei weithiau eraill mae ei esboniadau ar yr Efengylau (1522) a'i gyfieithiad cyfan o'r [[Beibl]] o fersiwn Lladin [[y Fwlgat]] i'r Ffrangeg (1530). Wedi i Briçonnet gael ei benodi'n Esgob Meaux ym 1516, rhoes i Lefèvre swydd ficer cyffredinol ym 1523. Yn sgil diwygiadau Briçonnet yn ei esgobaeth, cyhuddwyd clerigwyr Meaux o [[Protestaniaeth|Brotestaniaeth]] a ffoes Lefèvre i [[Strasbwrg]] ym 1525. Yn ddiweddarach, dychwelodd i [[Blois]] dan nawdd [[Ffransis I, brenin Ffrainc|y Brenin Ffransis I]]. Ym 1531 ffoes Lefèvre i Nérac yn ne-orllewin Ffrainc, gyda chefnogaeth [[Marguerite de Navarre]], ac yno bu farw.<ref name=Britannica>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Jacques-Lefevre-dEtaples |teitl=Jacques Lefèvre d'Étaples |dyddiadcyrchiad=6 Awst 2020 }}</ref>
 
== Cyfeiriadau ==
Llinell 16 ⟶ 18:
[[Categori:Dyneiddwyr y Dadeni]]
[[Categori:Genedigaethau'r 1450au]]
[[Categori:Llenorion Ffrengig y 15fed ganrif]]
[[Categori:Llenorion Ffrengig yr 16eg ganrif]]
[[Categori:Offeiriaid Catholig Ffrengig]]
[[Categori:Marwolaethau 1536]]
[[Categori:Pobl o Pas-de-Calais‎]]