Llyn y Tri Greyenyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Troellwr (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwanegu at yr wybodlen a mân newidiadau eraill.
Troellwr (sgwrs | cyfraniadau)
newidiadadu i'r wybodlen
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
|sir=[[Gwynedd]]|ardal_warchodol=[[Parc Cenedlaethol Eryri]]|cyfesurynnau=52.7052°42'20"N, 3.8470°50'48"W|math_o_le=[[llyn]]|map lleoliad=}}
Llyn bychan a oedd gynt ym mhlwyf [[Tal-y-llyn (pentrefan)|Tal-y-llyn]] ym [[Meirionnydd]], [[Gwynedd]], nid nepell o [[Cadair Idris|Gadair Idris]], oedd '''Llyn y Tri Greyenyn'''. Fe'i lleolid ar [[Bwlch Llyn Bach|Fwlch Llyn Bach]] rhwng Minffordd a Cross Foxes; Llyn y Tri Greyenyn yw'r 'llyn bach' yn enw'r bwlch. Roedd y ffordd ar un adeg yn mynd heibio ochr y llyn. Yn ddiweddarach fe wellwyd y ffordd drwy lenwi'r rhan fwyaf o'r llyn ac erbyn heddiw mae'r [[A487]] yn mynd trwy'r safle. Mae maes parcio bychan ar leoliad rhan o'r llyn hefyd (ar ochr ogledd-orllewinol y ffordd). Mae rhywfaint o olion yr hen lyn i'w gweld ar yr ochr dde-ddwyreiniol. Gan fod y maes parcio yn lle hwylus ar gyfer gwylio awyrennau milwrol ar '[[Dolen Mach|Ddolen Mach]]', datblygodd yr enw diweddar 'Mach Loop Car Park'.
 
Llinell 10:
 
<blockquote>On the left, is the rugged height of ''Cader Idris'', pass near a small lake called, ''Llyn y tri Graienyn'', or of the three grains; which are three vast rocks, the ruins of the neighbouring mountain, which sometime or other had fallen into the water. These, say the peasants, were the three grains which had fallen into the shoe of the great ''Idris'', which he threw out here, as soon as he felt them hurting his foot.<ref>Thomas Pennant, ''[https://books.google.co.uk/books?id=BKJbAAAAQAAJ&pg=PA96&dq=pennant%20tours%20in%20wales%20%22three%20grains%22&hl=cy&sa=X&ved=0ahUKEwjPioP044TjAhURZMAKHQxVBtIQ6AEINDAC&fbclid=IwAR2APpvYS0Lc9N5XV9Xn7lTGgstRgE94s-AMJskIXl2f8aX6cY4rUsVLXnk#v=onepage&q=pennant%20tours%20in%20wales%20%22three%20grains%22&f=false The Journey to Snowdon]''. London, 1781, t. 96.</ref></blockquote>
 
[[Delwedd:A_View_from_above_the_Pool_of_three_Grains,_in_Merionethshire.jpeg|bawd|chwith|300px|Samuel Sparrow: 'A view from above the Pool of three Grains, in Merionethshire', c.1780]]
 
Ceir stori ynghylch sut y llenwyd y llyn gan [[Lewis Morris]] mewn cerdd sy'n disgrifio ei daith o Geredigion yn 1750 i ymweld â [[William Vaughan (AS)|William Vaughan]] o [[Nannau]]. Dywed fod y llyn – os gwir y chwedl – wedi ei greu gan 'widdon' (cawres neu wrach) a bisodd ei lond: