Jacques Lefèvre d'Étaples: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cats Tagiau: Golygiad cod 2017 |
B dol |
||
Llinell 2:
[[Diwinydd]] [[Ffrancod|Ffrengig]] a [[dyneiddiaeth y Dadeni|dyneiddiwr]] yng nghyfnod [[y Dadeni Dysg]] oedd '''Jacques Lefèvre d'Étaples''' ({{iaith-la|Johannes Faber Stapulensis}}; tua [[1455]] – [[Mawrth]] [[1536]]).
Ganed yn Étaples yn rhanbarth [[Picardi]], [[Teyrnas Ffrainc]]. Cafodd ei ordeinio'n offeiriad ac astudiodd ym [[Prifysgol Paris|Mhrifysgol Paris]], ac enillodd ei radd baglor ym 1479 a'i radd meistr ym 1480. Dysgodd yr iaith [[Groeg (iaith)|Roeg]] ym Mharis dan diwtoriaeth yr ysgolhaig alltud [[Georgius Hermonymus]]. Aeth i'r [[Eidal]] ym 1492 a 1500 i wella'i wybodaeth o [[
Yn y cyfnod 1492–1506 ysgrifennodd Lefèvre lawlyfrau i fyfyrwyr ar bynciau ffiseg a mathemateg a chyhoeddodd gyfieithiadau anodiadol ac aralleiriadau o weithiau [[Aristoteles]] am foeseg, metaffiseg, a gwleidyddiaeth. Ymdrechai Lefèvre yn ei waith ddatgysylltu astudiaethau crefyddol oddi wrth yr hen ddulliau [[ysgolaeth|ysgolaidd]]. Cafodd ei syniadau ddylanwad ar ddisgyblion a fuasent yn arweinwyr a meddylwyr blaenllaw yn [[y Diwygiad Protestannaidd]], gan gynnwys [[Guillaume Farel]], neu yn ddyneiddwyr o fri megis yr Hebrëydd [[François Vatable]]. Dechreuodd gwestiynu yr uniongrededd Gatholig, ac ym 1505, dan ddylanwad daliadau cymunedol ac ysgolheigaidd [[Brodyr y Bywyd Cyffredin]], fe drodd at gyfriniaeth. Cyhoeddodd gyfrolau o fyfyrdodau cyfriniol gan [[Ramon Llull]], [[Jan van Ruysbroeck]], a [[Nikolaus von Kues]]. Cafodd dau o weithiau Lefèvre – ei drosiadau o bum [[Llyfr y Salmau|Salm]] i'r Lladin, ''Psalterium quintuplex'' (1509), a'i esboniad o [[Llythyrau Paul|Lythyrau Paul]], ''Commentaires sur saint Paul'' (1512) – ddylanwad ar [[Martin Luther]].
|