Comedi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Wiki13 (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 74.134.64.71 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Adda'r Yw.
Tagiau: Gwrthdroi
Llinell 1:
Math o adloniant sy'n apelio at synnwyr digrifwch ac un o ddwy brif ffurf dradoddiadol y [[Ddrama]] (gyda [[Trasiedi]]) yw '''comedi'''. Mae gan y gair 'comedi' (o'r gair [[Groeg (iaith)|Groeg]] κωμωδία, ''komodia'') yr ystyr boblogaidd heddiw o unrhyw fath o ymddiddan neu sgets lwyfan sydd yn ceisio diddanu, yn enwedig ym myd [[teledu]], [[ffilm]] a chomedi digrifwyr ar eu traed. Dylid nodi'r gwahaniaeth rhwng hyn a diffiniad academaidd y gair, sef comedi y theatr, sy'n tarddu o gyfnod y ddrama glasurol yng [[Groeg yr Henfyd|Ngroeg yr Henfyd]]. Yn nemocratiaeth [[Athen]], cawsai pobl eu dylanwadu'n helaeth gan y [[dychan]] gwleidyddol, gwaith dramodwyr mawr fel [[Aristophanes]], a berfformid gan yr actorion comig yn y theatrau.
 
Yn syml, gellir disgrifio'r genre theatraidd fel perfformiad dramatig a rydd dwy gymdeithas yn erbyn ei gilydd er mwyn creu gwrthdaro neu ymryson doniol. Darluniodd Northrop Frye y ddwy ochr gyferbyniol hyn fel "Cymdeithas yr Ifanc" a "Chymdeithas yr Hen"<ref>Northrop Frye, ''The Anatomy of Criticism'' (1957)</ref>, ond pur anaml y derbynir y ddeuoliaeth hyn fel esboniad boddhaol.
 
Yn ddiweddarach, darluniwyd comedi fel gwrthdaro rhwng ieuenctid cymharol di-bŵer a chyfundrefnau cymdeithasol sy'n rhwystro gobeithion yr ieuanc; yn hyn o beth, caiff y person ifanc ei rwystro gan ei ddiffyg awdurdod cymdeithasol, ac o ganlyniad, nid oes fawr o ddewis ganddo ond i gyflwyno eironi hynod o ddramatig ac mae hyn yn ei dro yn gwneud i'r gynulleidfa chwerthin (Marteinson, 2006).
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}