Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

cyn-wlad yn Affrica
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:45, 15 Awst 2020

Ffederasiwn ymreolaethol dan y Goron Brydeinig yn neheudir Affrica oedd Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa (Saesneg: Federation of Rhodesia and Nyasaland) neu Ffederasiwn Canolbarth Affrica (Central African Federation) a oedd yn cyfuno gwladfa ymreolaethol De Rhodesia â phrotectoriaethau Gogledd Rhodesia, a Gwlad Nyasa. Sefydlwyd y ffederasiwn ar 1 Awst 1953, a chanddi statws yn debyg i ddominiwn yn yr Ymerodraeth Brydeinig, a daeth i ben ar 31 Rhagfyr 1963.

Federation of
Rhodesia and Nyasaland

 

 

1953–1963
 

 

Baner Arfbais
Arwyddair
Magni Esse Mereamur
Location of Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa
Prifddinas Salisbury
Llywodraeth Brenhiniaeth ffederal
Teyrn
 -  1953-1963 Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig
Llywodraethwr Cyffredinol
 -  1953–1957 Barwn 1af Llewellin
 -  1957–1963 16eg Iarll Dalhousie
 -  1963 Syr Humphrey Gibbs
Prif Weinidog
 -  1953–1956 Godfrey Huggins
 -  1956–1963 Syr Roy Welensky
Hanes
 -  Ffederasiwn 1 Awst 1953
 -  Dadsefydlu 31 Rhagfyr 1963
Arian cyfred Punt y CAF
Heddiw'n rhan o Malawi
Sambia
Simbabwe

Ers y 1920au, bu setlwyr croenwyn yn Ne Rhodesia ac yng Ngogledd Rhodesia yn galw am uno'r ddwy diriogaeth er mwyn canoli grym y lleiafrifoedd Ewropeaidd. Gwrthwynebwyd yr ymdrechion hyn gan Swyddfa'r Trefedigaethau, wrth i'r awdurdodau geisio ymateb yn dringar i bryderon yr Affricanwyr croenddu. Wedi'r Ail Ryfel Byd, tyfodd yr economi o ganlyniad i ddiwydiannau eilradd yn Ne Rhodesia a'r diwydiant copr yng Ngogledd Rhodesia, a chynyddodd y niferoedd o fewnfudwyr croenwyn yn sylweddol. Dechreuodd gwleidyddion a diwydianwyr croenwyn ymgyrchu o ddifri dros integreiddio Rhodesia gyfan er mwyn elwa ar farchnadoedd mawr a llafurlu o weithwyr croenddu, gan gynnwys Gwlad Nyasa. Llwyddasant ddwyn perswâd ar lywodraeth y Deyrnas Unedig, a oedd yn bwriadu creu gwladwriaeth amlhiliol i wrthsefyll trefn apartheid yn Ne Affrica. Gwrthwynebwyd y ffederasiwn gan bobl dduon yng Ngogledd Rhodesia a Gwlad Nyasa, am iddynt ofni y byddai poblogaeth groenwen De Rhodesia yn rheoli'r llywodraeth.[1]

Yn sgil terfysgoedd gan genedlaetholwyr croenddu yng Ngwlad Nyasa ym 1959, a'r ymateb llawdrwm gan yr awdurdodau, penderfynodd llywodraeth y Deyrnas Unedig ar bolisi o drosglwyddo grym gwleidyddol i'r mwyafrifoedd Affricanaidd. Dadsefydlwyd y ffederasiwn yn niwedd 1963, ac ym 1964 rhoddwyd annibyniaeth i Malawi (Gwlad Nyasa) a Sambia (Gogledd Rhodesia). Ym 1965 datganwyd annibyniaeth gan Dde Rhodesia heb ganiatâd y Deyrnas Unedig, a sefydlwyd Gweriniaeth Rhodesia.

Llywodraeth

Rhestr Llywodraethwyr Cyffredinol
Rhestr Prif Weinidogion

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Federation of Rhodesia and Nyasaland. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Awst 2020.