SpynjBob Pantsgwâr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
omg! spongebob yn gymreg - ffantasteg!
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:SpongeBob_SquarePants.gif|200px|bawd|Spynjbob Pantsgwâr]]
'''Spynjbob Pantsgwâr''' (hefyd ''Spynjbob Pantsgwâr'' wrth i'r rhaglen gychwyn, {{Iaith-en|SpongeBob SquarePants}}) yw'r enw Cymraeg ar gyfres [[teledu|deledu]] animeiddiedig [[UDA|Americanaidd]] am y cymeriad cartŵn o'r un enw, a'r cwmni cyfryngau sy'n ei chynhyrchu. Mae'n un o "Nicktoons" y cwmni teledu [[Nickelodeon]].
 
Erbyn heddiw, darlledir '''[[Spynjbob Pantsgwâr (cymeriad)|Spynjbob]]''' ledled y byd. Fe'i crëwyd gan y [[bioleg forol|biolegydd morol]] ac [[animeiddio|animeiddiwr]] [[Stephen Hillenburg]] ac fe'i cynhyrchir gan ei gwmni cynhyrchu, [[United Plankton Pictures]]. Lleolir y gyfres yn y [[Cefnfor Tawel]] yn ninas ''Bikini Bottom'' a'i chyffiniau ar waelod lagŵn. Darlledwyd y bennod beilot yn yr Unol Daleithiau ar Nickelodeon ar [[1 Mai]] [[1999]], gyda'r gyfres gyntaf swyddogol yn dilyn ar [[17 Mehefin]] yn yr un flwyddyn. Cafwyd sawl cyfres erbyn hyn ynghyd â [[DVD]]au a dwy [[ffilm]] hir.