Llyn y Tri Greyenyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Troellwr (sgwrs | cyfraniadau)
newidiadadu i'r wybodlen
Troellwr (sgwrs | cyfraniadau)
Gwyodaeth am yr enwau
Llinell 2:
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
|sir=[[Gwynedd]]|ardal_warchodol=[[Parc Cenedlaethol Eryri]]|cyfesurynnau=52°42'20"N, 3°50'48"W|math_o_le=[[llyn]]|map lleoliad=}}
Llyn bychan a oedd gynt ym mhlwyf [[Tal-y-llyn (pentrefan)|Tal-y-llyn]] ym [[Meirionnydd]], [[Gwynedd]], nid nepell o [[Cadair Idris|Gadair Idris]], oedd '''Llyn y Tri Greyenyn'''. Fe'i lleolid ym mlaen Cwm Rhwyddfor (neu Gwm Rhwyddor) ar [[Bwlch Llyn Bach|Fwlch Llyn Bach]] rhwng Minffordd a'r Cross Foxes; Llyn y Tri Greyenyn yw'r 'llyn bach' yn enw'r bwlch. Roedd y ffordd ar un adeg yn mynd heibio ochr y llyn. Yn ddiweddarach fe wellwyd y ffordd drwy lenwi'r rhan fwyaf o'r llyn ac erbyn heddiw mae'r [[A487]] yn mynd trwy'r safle. Mae maes parcio bychan ar leoliad rhan o'r llyn hefyd (ar ochr ogledd-orllewinol y ffordd). Mae rhywfaint o olion yr hen lyn i'w gweld ar yr ochr dde-ddwyreiniol. Gan fod y maes parcio yn lle hwylus ar gyfer gwylio awyrennau milwrol ar '[[Dolen Mach|Ddolen Mach]]', datblygodd yr enw diweddar 'Mach Loop Car Park'.
 
==Enwau a Thraddodiadau==
==Traddodiadau==
Mae enw'r llyn yn gysylltiedig â chwedl am [[Idris Gawr]]. Dywedid i Idris sylwi ryw dro ar dri greyenyn (tri darn o raean) yn ei esgid. Tynnodd ei esgid a'u taflu i ffwrdd. Ond ac yntau'n gawr mor enfawr, roedd y tri greyenyn hwythau o faint meini anferth. Glaniodd y tri greyenyn ger safle'r llyn a hynny sy'n esbonio'r enw. Mae o leiaf un o'r cerrig hyn i'w gweld heddiw ar ochr yr A487.
 
Llinell 22:
a rhyfedd Iawn (os gwir hyn)<br>
lle pisodd gwiddon lonaid llyn<ref>Huw Owen (gol.), ''[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1386446/1409230/227 The Additional Letters of the Morrises of Anglesey (1735-1786)]'', ''Y Cymmrodor'', cyf. XLIX, rhan I (1947), t. 196.</ref>
</blockquote>Oddeutu 1700, anfonodd [[Edward Lhuyd]] holiadur at bob plwyf yng Nghymru i holi am nodweddion daearyddol, enwau lleoedd, traddodiadau ac ati (y ''Parochialia''). Mae'r ymateb o Dal-y-llyn yn cynnwys y canlynol:<blockquote>Lhyn pen Morva al<sup>s</sup> [alias] Lhyn y tri Grayenyn ym mlaen K. Rhwydhor ar dervun pl. Dol Gelhey.</blockquote>Ar gyrion [[map degwm]] [[Dolgellau]] (1842), nodir yn yr enw 'Llyn Tri Graienyn'. Ond mae mapiau diweddarach yr [[Arolwg Ordnans]] yn nodi 'Llyn Bach'.
</blockquote>
 
==Cyfeiriadau==