Esblygiad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Garik (sgwrs | cyfraniadau)
B dileu '
Garik (sgwrs | cyfraniadau)
B Cywiro dolyn
Llinell 4:
[[Delwedd:Mwtadu mutation.jpg|bawd|de|200px|'''1''': [[Mwtadu]] yn creu amrywiaeth. '''2''': Mwtadiaid anffafriol yn methu atgenhedlu'n llwyddiannus. '''3''': Atgenhedlu yn digwydd gan greu mwtadiaeth ffafriol ac anffafriol eto. '''4'''. Mwtadiaid ffafriol yn fwy tebygol o oroesi. '''5''': ... ac atgenhedlu.]]
 
Newidiad dros amser o nodweddion etifeddedig mewn [[poblogaeth]]au yw '''esblygiad'''. Esblygiad sydd yn gyfrifol am y cymhlethdod a'r amrywiaeth enfawr sydd yn nodweddu bywyd fel y'i welir ar y [[Daear|Ddaear]] heddiw. Gan fod rhai unigolion yn [[atgenhedliad|atgenhedlu]] yn fwy llwyddianus nag eraill—oherwydd nodweddion sy'n eu galluogi i oroesi'n well ac i fanteisio'n well o'u [[amgylchedd]]—a gan fod yr unigolion hyn yn tueddu i drawsyrru'r nodweddion a arweinodd at eu llwyddiant i'w epil, tueddir i rywogaethau addasu dros amser i'w amgylcheddion. Dyma fecaniaeth esblygiad.
 
Mae ein dealltwriaeth heddiw o [[bioleg|fioleg]] esblygol yn cychwyn gyda chyhoeddiad papurau [[Alfred Russel Wallace]] a [[Charles Darwin]] ym 1858 a'i phoblogeiddio yn 1859 pan gyhoeddodd [[Charles Darwin]] ei ''[[On the Origin of Species]]''. Cyplyswyd hyn a gwaith mynach o'r enw [[Gregor Mendel]] a'i waith ar [[planhigyn|blanhigion]] a'r hyn rydym yn ei alw'n [[etifeddeg]] a [[genyn|genynau]].<ref>[http://www.accessexcellence.org/RC/AB/BC/Gregor_Mendel.html Gwefan Saesneg National Health Museum]</ref>