Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Arwisgiad Tywysog Cymru"

Ychwanegwyd 17 beit ,  5 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
 
== Arwisgwyd y Tywysog Siarl ==
[[Delwedd:HRH_Prince_Charles_43_Allan_Warren.jpg|alt=|bawd|Y Tywysog Siarl yn 1972]]
Un o’r achlysuron mwyaf dadleuol yn hanes Cymru’r 1960au oedd Arwisgiad Tywysog Cymru yn 1969. Gan weithio gyda’r Prif Weinidog [[Harold Wilson]], fe wnaeth y Frenhines benderfynu y byddai yn rhoi’r teitl hwn i’w mab hynaf, y [[Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru|Tywysog Siarl]].  Gobeithiai y byddai hyn yn cryfhau’r gefnogaeth ar gyfer y [[Y Deyrnas Unedig|Deyrnas Unedig]] ac yn lleihau apêl yr ymdeimlad o genedlaetholdeb oedd yn cynyddu yng Nghymru yn ystod y degawd hwnnw. Roedd twf ym mhoblogrwydd [[Plaid Cymru]] a [[Cymdeithas yr Iaith|Chymdeithas yr Iaith]] ar y pryd yn achosi tipyn o ofid i’r [[Plaid Lafur|Blaid Lafur]]. Gwelai [[George Thomas]], Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac un a oedd yn frenhinwr brwdfrydig, y byddai’r arwisgiad yng Nghaernarfon yn gyfle i wrthweithio’r twf mewn cenedlaetholdeb.<ref name=":0">{{Cite web|url=http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2016-17/16-17_2-12/cym/pdf/pleidiol-wyf-im-gwlad.pdf|title=Pleidiol wuf im gwlad|date=|access-date=11 Mawrth 2020|website=CBAC|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
 
[[Delwedd:Protest_Arwisgiad_Cilmeri_7.jpg|link=https://cy.wikipedia.org/wiki/Delwedd:Protest_Arwisgiad_Cilmeri_7.jpg|bawd|Protest yng Nghilmeri yn erbyn yr arwisgiad. 1969]]
[[Delwedd:HRH_Prince_Charles_43_Allan_Warren.jpg|alt=|bawd|Y Tywysog Siarl yn 1972|chwith|196x196px]]
Aeth Siarl i astudio’r Gymraeg ym [[Prifysgol Aberystwyth|Mhrifysgol Aberystwyth]] am dymor cyn yr arwisgo. Roedd ei diwtor yn gefnogwr Plaid Cymru, sef y darlithydd Dr Tedi Millward. Roedd y Prif Weinidog [[Harold Wilson]] yn poeni y byddai Siarl yn agored i niwed ond dywedodd [[MI5]] nad oedd mewn unrhyw berygl.