Runavík: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 97:
Y tîm pêl-droed lleol yw [[NSÍ Runavík]] sy'n chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm Runavík. Bu iddynt enill [[Uwch Gynghrair Ynysoedd Ffaröe]] unwaith, a hynny yn 2007. Maent hefyd wedi chwarae [[C.P.D. Tref Y Barri|Y Barri]] mewn gêm Ewropeaidd yn 2020.
 
Yn ogystal â'r clwb [[pêl-droed]], ceir clwb rhwyfo, Róðrarfelagið NSÍ, sydd â chychod mewn sawl maint ac yn cymryd rhan yn y cystadlaethau [[rhwyfo]] cystadleuol (kaproning yn [[Daneg]]) o amgylch Ynysoedd Ffaröe bob haf.

Bob yn ail flwyddyn, trefnir digwyddiad chwaraeon neu ŵyl haf yn Runavík, o'r enw Eystanstevna, lle mae'r ymgiprys kaproning yn rhan o'r digwyddiad. Mae rasys rhwygo môr yn arbennig o boblogaidd yn yr Ynysoedd a cheir sawl cystadleuaeth.<ref>https://www.faroeislands.fo/the-big-picture/news/rowing-season-underway/</ref>
 
Ceir hefyd clwb [[pêl-law]], Tjaldur, a chlwb gymnasteg Støkk, a sefydlwyd ym 1966. Adeiladodd bwrdeistref Runavík gampfa newydd, a agorodd yn 2014 sydd wedi arwain at wella perfformiad aelodau Støkk.