Poggio Bracciolini: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dol
Llinell 6:
 
== Chwilota a llenydda ==
Ym 1403 symudodd i [[Rhufain|Rufain]] a fe'i penodwyd yn ysgrifennydd i'r [[Pab Boniffas IX]] (t. 1389–1404). Cyd-deithiodd Bracciolini ar draws Ewrop yn un o'r osgordd babaidd, er enghraifft i Gyngor Eglwysig Konstanz (1414–18), ac ymwelodd â llyfrgelloedd y [[mynachlog]]ydd a'r eglwysi a fu'n meddu ar gannoedd o lawysgrifau hynafol unigryw. Yn [[Abaty Cluny]] ym 1415 daeth o hyd i ddau araith gan [[Cicero]], ac ym 1416 fe ganfu'r testun cyflawn cyntaf o ''Institutio oratoria'' gan [[Quintilian]], tri o lyfrau ''Argonautica'' a rhan o un arall gan [[Gaius Valerius Flaccus|Valerius Flaccus]], a sylwebaeth [[Asconius Pedianus]] ar areithiau Cicero, i gyd yn llyfrgell [[Abaty Sant Gall]]. Aeth ar sawl taith i Fulda a mynachlogydd eraill i chwilio am ragor o lawysgrifau, ac ym 1417 canfuwyd ''De significatu verborum'' gan [[Sextus Pompeius Festus]], ''De rerum natura'' gan [[Lucretius]], ''Astronomica'' gan [[Manilius]], ''Punica'' gan [[Silius Italicus]], ''Res gestae'' gan [[Ammianus Marcellinus]], a'r llyfr coginio ''Apicius''. Daeth o hyd i ragor o areithiau Cicero yn [[Langres]] ac yng [[Cwlen|Nghwlen]].<ref name=Britannica/> Cyfrannodd darganfyddiadau Bracciolini o weithiau Cicero a Quintilian at ddealltwriaeth ysgolheigion Ewropeaidd yr oes o arddull Lladin, [[rhethreg]] glasurol, a chysyniadau o addysg.
 
Treuliodd y cyfnod 1418–23 yn [[Teyrnas Lloegr|Lloegr]], ond methodd i ganfod llawysgrifau anhysbys yn y llyfrgelloedd yno. Fe'i ailbenodwyd yn ysgrifennydd yn Rhufain ym 1423, a daeth o hyd i ragor o lawysgrifau Lladin ar draws yr Eidal, gan gynnwys ''De aquaeductibus'' gan [[Frontinus]] a ''Matheseos libri'' gan [[Firmicus Maternus]]. Ymhlith yr awduron Lladin eraill a ddaeth i'r amlwg yn y Dadeni o ganlyniad i ddarganfyddiadau Bracciolini mae [[Vitruvius]], [[Petronius]], a [[Plautus]]. Cyfieithodd sawl gwaith o'r Hen Roeg i'r Lladin, gan gynnwys ''Cyropaedia'' gan [[Xenophon]], gweithiau hanes [[Diodorus Siculus]], ac ''Onos'' gan [[Lucianus]]. Bu hefyd yn dipyn o [[archaeoleg]]ydd am iddo astudio pensaernïaeth yr Henfyd a chasglu [[arysgrif]]au a cherfluniaeth glasurol. Gweithiodd i [[Llys y Pab|Lys y Pab]] am hanner can mlynedd, ac erbyn diwedd ei yrfa fe'i cyflogwyd yn swydd yr ysgrifennydd apostolaidd.