Yr ocwlt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Y mae'r gair '''ocwlt''' yn tarddu o'r [[Lladin]] ''occultus'' (dirgelaidd, cyfrin, cuddiedig) ac yn cyfeirio at 'wybodaeth y cyfrin' neu 'wybodaeth y cuddiedig' ac ei ystyr poblogaidd yw 'gwybodaeth am y goruwchnaturiol', i'r gwrthwyneb i 'wybodaeth y gweledol' neu 'gwybodaeth y mesuradwy', sydd fel arfer yn cyfeirio at [[Gwyddoniaeth|wyddoniaeth]].
I ymarferwyr ocwltiaeth ystyr y gair yw'r astudiaeth o "realiti" ysbrydol sy'n estynnu tu hwnt i resymeg pur a gwyddoniaeth ffisegol, er bod rhai ymarferwyr yn anghytuno â'r fath ddadansoddiad yn sgil [[Ffiseg Cwantwm|ffiseg Cwantwm]], er enghraifft ymarferwyr [[HudDewiniaeth Caos|huddewiniaeth Caos]]. Mae'r gair yn gyfystyr â'r term 'esoterig'.
Mae'r term yn cael ei ddefnyddio i labelu nifer o sefydliadau neu urddau a'u hymarferion. Mae'r enw hefyd yn estynnu i ddisgrifio corff mawr o lenyddiaeth ac athroniaeth ysbrydol.
==Ocwltiaeth==
Ocwltiaeth yw'r astudiaeth o ddoethineb ocwlt neu guddiedig. I'r ocwltydd yr astudiaeth am y "Gwir" yw ystyr yr enw, "gwir" dyfnach sy'n bodoli islaw'r arwyneb. Gellir cynnwys pynciau fel [[HudDewiniaeth (ocwlt)|huddewiniaeth]], [[Canfyddiad Synhwyrol Ychwanegol|canfyddiad synhwyrol ychwanegol]] (galluoedd seicig), [[Astroleg|astroleg]], [[Ysbrydegaeth|ysbrydegaeth]], [[Rhifoleg|rhifoleg]], a [[Breuddwydio eglur| breuddwydio eglur]]. Yn aml mae yna elfennau crefyddol i'r astudiaethau a chredau hyn, ac mae llawer o ocwltwyr yn proffesu dilyn [[Crefydd|crefyddau]] fel [[Cristnogaeth]], [[Iddewiaeth]], [[Paganiaeth]], [[Hindŵaeth]], [[Bwdhaeth]] neu [[Islam]].
Mae'r gair "ocwlt" yn go rywogaethol,am ei bod yn cynnwys bron â phopeth sydd ddim yn cael ei hawlio gan y crefyddau mawr ac hefyd llawer o bethau sydd yn perthyn iddynt. Mae hyd yn oed y [[Cabbala]] yn cael ei ystyried yn astudiaeth ocwlt, efallai am ei boblogrwydd ymhlith dewiniaid [[Ewrop]].
Mewn termau eang, nid yw mewnwelediad uniongyrchol na chanfyddiad o'r ocwlt yn cynnwys mynediad i ffeithiau mesuradwy, eithr fe'i gyrhaeddir trwy'r meddwl neu'r ysbryd. Gallai'r term cyfeirio at hyfforddiant meddyliol, seicolegol neu ysbrydol. Serch hynny mae llawer o ocwltwyr hefyd yn astudio [[Gwyddoniaeth|gwyddoniaeth]], rhai am eu bod yn gweld gwyddoniaeth fel cangen o [[Alcemeg]] a rhai yn defnyddio [[Ffiseg Cwantwm|ffiseg cwantwm]] fel esboniad gwyddonol ar gyfer hud.
Llinell 23:
 
[[Categori: HudDewiniaeth]]
[[Categori: Yr Ocwlt]]
[[Categori: Athroniaeth]]