Ogof Bontnewydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llyfryddiaeth
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 1:
Mae '''Ogof Bontnewydd''' yn nyffryn [[Afon Elwy]] yn [[Sir Ddinbych]] yn adnabyddus fel y man lle darganfuwyd y gweddillion cynharaf o fodau dynol ar ddaear [[Cymru]].
 
Bu [[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]] yn gyfrifol am gloddio yma rhwng 1978 a 1995. Ymysg y darganfyddiadau yn yr ogof yr oedd dannedd a rhan o ên bodau dynol oedd yn ffurf gynnar ar [[Dyn Neanderthal|Ddyn Neanderthal]]. Cafwyd hyd i 19 o ddannedd i gyd, yn perthyn i bum unigolyn yn amrywio o ran oed o blant ieuanc i oedolion. Credir bod perchennog y rhain wedi byw rywbryd rhwng 230,000 a 185,000 o flynyddoedd yn ôl. Cafwyd hyd i lawfwyeill Neanderthalaidd hefyd, ac esgyrn gydag olion cigydda arnynt.
 
Darganfyddiad arall yma oedd penglog [[arth]] oedd yn dyddio i gyfnod diweddarach, tua 28,000 o flynyddoedd yn ôl.