Christine James: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen awdur
| enw = Dr. Christine James
| delwedd = delwedd_rhydd.jpg
| maintdelwedd = 200px
| pennawd = Dr. Christine James
| ffugenw =
| enwgeni =
Llinell 30:
| llofnod =
| gwefan = http://www.swan.ac.uk/staff/academic/Arts/jamesc/ }}
Mae Dr. '''Christine James''' yn ddarlithydd yn y [[Cymraeg|Gymraeg]] ym [[Prifysgol Abertawe|Mhrifysgol Abertawe]]. Enillodd y Goron yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005|Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau]] yn [[2005]] am ei chasgliad o gerddi rhydd ar bwncthema o'i dewis ei hun.<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4730000/newsid_4736200/4736293.stm Coron i Christine] Gwefan Newyddion y BBC. 1-08-2005. Adalwyd ar 12-07-2009</ref> Enw'r casgliad oedd ''Llinellau Lliw'' a chyflwynodd y gwaith o dan y ffugenw "Pwyntil". Maent yn gerddi egffrastig - hynny yw, cerddi sy'n ymateb i weithiau celf.
 
==Ei chefndir a'i gwaith==
Ganed Christine James (neenée Mumford) yn [[Tonypandy|Nhonypandy]] lle dysgodd y Gymraeg fel ail iaith yn [[Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth]]. Astudiodd y Gymraeg ym [[Prifysgol Aberystwyth|Mhrifysgol Aberystwyth]] lle enillodd radd BA yn y dosbarth cyntaf yn 1975. Aeth ymlaen i olygu testun o Gyfraith Hywel, cyfreithiau hanesyddol Cymru, ar gyfer gradd doethuriaeth, a ddyfarnwyd iddi yn 1984.
 
Rhwng 1979 a 1981 bu'n gynorthwyydd golygyddol yn yr Academi Gymreig, yn gweithio ar ''Cydymaith i Lenydddiaeth Cymru''. Yn [[1985]], fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, lle y mae erbyn hyn yn Uwch-ddarlithydd<ref>[http://www.swan.ac.uk/staff/academic/Arts/jamesc/ Gwefan Prifysgol Abertawe] Adalwyd 12-0702009</ref>. O ran ei hymchwil academaidd y mae'n arbenigo ar lenyddiaeth yr Oesoedd Canol a'r cyfnod modern cynnar ac ar lenyddiaeth y Cymoedd.
 
Dechreuodd farddoni ar ôl cyfnod o salwch, fel modd i ddygymod aâ'r anhwylder. Dywedodd mewn cynhadledd i'r wasg ar ôl iddi ennill y Goron:
 
<blockquote>"Fe gefais i salwch a chyfnod o wendid hir yn dilyn hynny ac yr oedd peidio â gallu gweithio yn sioc i'r system ac fe gychwynais i farddoni fel ffordd o ddod mas - ac yr oedd yn rhyw fath o gatharsis i weithio fy ffordd drwy'r dryswch a'r gwendid."<ref>[http://www.bbc.co.uk/cymru/eisteddfod2005/llun/coron.shtml Coron 2005 Darluniau Christine]. Gwefan y BBC. Adalwyd 12-07-2009</ref></blockquote>
 
Bu hefyd yn golygu'r cylchgrawn ''[[Taliesin (cylchgrawn)|Taliesin]]'' ar y cyd gydaâ [[Manon Rhys]] rhwng [[2000]] a 2009.<ref>[http://www.swan.ac.uk/staff/academic/Arts/jamesc/ Gwefan Prifysgol Abertawe]. Adalwyd ar 12-07-2009</ref>
 
==Cyfeiriadau==