Guto Dafydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 21:
Yn 2014 cyhoeddodd ''Jac'', nofel dditectif gyffrous i bobl ifanc (Y Lolfa, ISBN 9781847718976). Yr un flwyddyn, cyhoeddodd cyfrol o farddoniaeth ''[[Ni Bia'r Awyr]]'' (Cyhoeddiadau Barddas, ISBN 9781906396787). Cyhoeddodd ei nofel gyntaf i oedolion yn 2015, sef ''[[Stad (cyfrol)|Stad]]'' (Y Lolfa, ISBN 9781784611279).
 
Yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016|Eisteddfod Genedlaethol 2016]], ennillodd [[Gwobr Goffa Daniel Owen|Wobr Goffa Daniel Owen]] am ei nofel ''[[Ymbelydredd (nofel)|Ymbelydredd]]'' sy'n dilyn gŵr ifanc o Wynedd wrth iddo ddilyn cwrs radiotherapi ym Manceinion. Seiliwyd y nofel ar driniaeth Guto ei hun pan gafodd gwrs o radiotherapi dros gyfnod o chwe wythnos yn hydref 2015 ar gyfer ffibromatosis ar wal y frest. Enillodd y nofel wobr Barn y Bobl Golwg360 yn nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2017. Yn 2019 ennillodd y Daniel Owen am yr eildro gyda'i nofel ''[[Carafanio (nofel)|Carafanio]]''.<ref>{{dyf newyddion|url=https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/49254351|teitl=Gwobr Goffa Daniel Owen i Guto Dafydd|cyhoeddwr=BBC Cymru Fyw|dyddiad=6 Awst 2019}}</ref>
 
Ysgrifennodd y geiriau ar gyfer ''A Oes Heddwch'', cyngerdd agoriadol [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 2017|Eisteddfod Genedlaethol 2017]].<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/celfyddydau/eisteddfodau/551242-cipior-goron|teitl=Guto Dafydd yn cipio’r Goron|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=5 Awst 2019}}</ref>