Jawaharlal Nehru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: sw:Jawaharlal Nehru
B Mudiad Amhleidiol
Llinell 6:
Yn 15 oed gyrrwyd Nehru i Loegr i [[Ysgol Harrow]]; yn ddiweddarach astudiodd yng [[Coleg y Drindod, Caergrawnt|Ngholeg y Drindod, Caergrawnt]] cyn cael ei hyfforddi fel bargyfreithiwr yn [[Llundain]]. Wedi dychwelyd i India, priododd [[Kamala Nehru|Kamala Kaul]] ar [[8 Chwefror]], [[1916]]. Y flwyddyn wedyn ganwyd eu hunig blentyn, [[Indira Gandhi|Indira Priyadarshini]], yn ddiweddarach Indira Gandhi. Dechreuodd Nehru gymeryd diddordeb yn y mudiad cenedlaethol, a daeth dan ddylanwad [[Mahatma Gandhi]].
 
Erbyn 1929 roedd yn un o brif arweinwyr y mudiad cenedlaethol, a chafodd ei garcharu nifer o weithiau. Bu farw Kamala Nehru yn 1938. Pan enillodd India annibyniaeth yn [[1947]], daeth Nehru yn Brif Weinidog. Dan ei arweiniad ef, enillodd Plaid y Gyngres fuddugoliaeth ysgubol yn etholiad 1952. Dan Nehru, dilynodd India bolisiau [[Sosialaeth|sosialaidd]]. Enillwyd buddugoliaeth arall yn etholiad 1957, ac eto yn 1962 ond gyda mwyafrif llai. Ar y llwyfan ryngwladol, roedd yn arweinydd blaenllaw o'r [[Mudiad Amhleidiol]]. Ym mis Mai 1964, dioddefodd Nehru drawiad ar y galon, a bu farw ar [[27 Mai]]. Yn unol a'r arferiad Hindwaidd, llosgwyd ei gorff ger glan [[Afon Yamuna]] yn Delhi, ym mhresenoldeb cannoedd o filoedd o alarwyr.
 
Yn ddiweddarach daeth ei ferch, Indira, yn Brif Weinidog, a bu ei ŵyr [[Rajiv Gandhi]] yn Brif Weinidog hefyd yn ei dro.