Gamal Abdel Nasser: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Mudiad Amhleidiol
Llinell 5:
Ganed Nasser yn [[Alexandria]], ac yn 16 oed roedd eosoes yn arweinydd mudiad myfyrwyr yn gwrthwynebu dylanwad Prydeinig yn yr Aifft. Ymunodd a'r fyddin, ac ymladdodd yn [[Rhyfel Israel-Arabiaidd 1948]], gan gael ei anafu.
 
Roedd yn rhan o'r grŵp swyddogion a orfododd y brenin [[Faruk I]] i ymddiswyddo yn [[1952]], a dilynwyd hyn gan gyhoeddi'r Aifft yn Weriniaeth yn [[1953]] gyda [[Ali Mohammed Naguib]] yn Arlywydd cyntaf. Daeth Nasser yn Weinidog dros Faterion Cartref. Yn [[1954]], gorfodwyd Neguib i ymddiswyddo, ac yn [[1956]] daeth Nasser yn Arlywydd, swydd a ddaliodd hyd ei farwolaeth yn [[1970]]. Pan ffurfiwyd [[y Weriniaeth Arabaidd Unedig]] trwy uno yr Aifft a [[Syria]] yn [[1958]], Nasser oedd Arlywydd y wladwriaeth newydd, a'i hunig arlywydd, gan i Syria ymwahanu eto yn [[1961]]. Ar y llwyfan ryngwladol, roedd yn arweinydd blaenllaw o'r [[Mudiad Amhleidiol]].
 
Yn ystod cyfnod Nasser fel Arlywydd yr adeiladwyd [[Argae Aswan]] ar draws [[Afon Nîl]] yn ne yr Aifft. Enwyd y gronfa ddŵr enfawr a ffurfiwyd wedi adeiladu'r argae yn [[Llyn Nasser]] ar ei ôl.